Carcharu dyn o Rydaman am dreisio merch 12 oed
Mae dyn ifanc o Rydaman wedi cael ei garcharu am dair blynedd a chwe mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc ar ôl pledio'n euog i dreisio merch 12 oed.
Fe wnaeth Jake Richards, 19 oed, o Garnswllt, gyfaddef iddo dreisio'r ferch pan oedd oedd yn 17 oed ar ôl i'r ddau sgwrsio ar Snapchat cyn cyfarfod.
Cysylltodd y plentyn gyda'r heddlu ym mis Awst 2024 ar ôl dweud am yr hyn oedd wedi digwydd wrth ffrind.
Dywedodd wrth yr heddlu ei bod wedi cwrdd â Richards, a'u bod wedi cerdded i dwnnel diarffordd lle roedd hi'n meddwl eu bod nhw'n mynd i siarad.
Tra yn y twnnel, fe ddechreuodd Richards ei threisio, gan barhau ar ôl iddi ddweud na wrtho sawl gwaith.
Yn dilyn ymchwiliad oedd yn cynnwys ymholiadau fforensig a digidol, cafodd Richards ei gyhuddo o dreisio.
Fe blediodd yn euog i'r drosedd yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Mercher i dair blynedd a chwe mis dan glo.
'Dewrder'
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Carl Pocock, o Heddlu Dyfed-Powys: “Yn gyntaf, hoffwn ganmol y dioddefwr, a oedd ond yn 12 oed pan ddigwyddodd y drosedd hon, am ei dewrder wrth ddod ymlaen i roi gwybod am y drosedd, ac am ei chydweithrediad yn ystod yr ymchwiliad dilynol.
“Nid yw treisio, nac unrhyw fath o gam-drin rhywiol, yn hawdd i siarad amdano, ac yn enwedig i un mor ifanc, mae'n rhaid bod hyn wedi bod yn hynod frawychus iddi.
“Er gwaethaf wynebu rhywun bum mlynedd yn hŷn na hi, cymerodd y camau cywir wrth ddweud na pan nad oedd hi'n gyfforddus â'r sefyllfa, gan erfyn ar Richard i stopio.
"Ond, parhaodd yntau beth bynnag i fodloni ei anghenion ei hun.
“Parhaodd i ddangos ei dewrder pan siaradodd am y drosedd, yn gyntaf gyda ffrind ac wedi hynny trwy ei adrodd i'r heddlu i sicrhau bod modd cymryd camau i weithredu.
“Archwiliodd ein staff arbenigol hanes y dioddefwr yn drylwyr, ac roeddent yn gallu helpu i brofi'r achos trwy dystiolaeth DNA a thystiolaeth fforensig ddigidol."
