Newyddion S4C

Y Chwe Gwlad: Cymru'n ennill gêm agos yn erbyn Yr Alban

12/02/2022
Cymru yn erbyn Yr Alban

Llwyddodd Cymru i guro'r Alban 20-17 mewn gêm agos ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dechreuodd Cymru’r gêm yn dda gyda’r maswr a’r capten Dan Biggar yn dathlu ei 100fed cap gyda dwy gic gosb i osod ei dîm ar y blaen o 6-0 o fewn saith munud. 

Tarodd yr Alban nôl gan sgori cais i’r asgellwr Darcy Graham yn dilyn cyfnod o bwysau i ddod o fewn un pwynt i Gymru. Sgoriodd Finn Russell, maswr yr Alban ddwy gic gosb cyn i Biggar daro nôl dros Gymru. 

Daeth Cymru yn gyfartal ar ôl 31 munud gyda chais i’r prop Tomas Francis, ei ail dros ei wlad. Methodd Biggar gyda’r trosiad gyda’r sgôr yn gyfartal ar yr egwyl yn 14-14.

Sbardun i Gymru

Aeth yr Alban ymhellach ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner gyda chic gosb arall i Russell. Sbarunodd hyn ychydig fwy o dân yng Nghymru gyda’r asgellwr Alex Cuthbert yn dod yn agos at sgorio. Cic gosb arall i Biggar oedd yr unig fantais i Gymru allan o’r symudiad i unioni’r sgôr eto yn 17-17.

Fe darodd Biggar y postyn gyda chic gosb o tua 50 medr ac fe enillodd Cymru’n meddiant yn ôl gyda Cuthbert yn dodi ei droed dros yr ystlys cyn tirio. Roedd y dyfarnwr yn chwarae mantais i Gymru ar y pryd ar ôl i’r Alban gamsefyll gyda Russell yn derbyn cerdyn melyn am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol.

Aeth Biggar am y gornel yn hytrach na’r pyst a daeth cic gosb arall i Gymru yn dilyn y lein. Aeth Cymru at y lein unwaith eto ac yn dilyn pwysau gan y blaenwyr fe gigiodd Biggar gôl adlam i ddodi Cymru ar y blaen o 20-17 gyda 10 munud yn weddill.

Daeth y canolwr Jonathan Davies oddi ar y fainc yn hwyr yn y gêm i ennill ei 100fed cap.

Llwyddodd Cymru i wrthsefyll ymosodiad hwyr gan Yr Alban i gipio'r fuddugoliaeth oedd yn fwy pwysig na'r perfformiad.

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.