Arestio dau berson ar ôl galwad twyll i'r heddlu yn y de
Mae dau berson yn y de wedi cael eu harestio ar ôl i alwad twyll (hoax call) arwain at alw heddlu arfog i dŷ.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn galwad yng Nghasnewydd lle'r oedd peryg difrifol i fywyd person.
Roedd tua 40 o swyddogion yr heddlu wedi mynychu eiddo yn ardal Ringland yn y ddinas tua 21:00 nos Sadwrn, 29 Mawrth.
Ond fe wnaeth y swyddogion ganfod nad oedd unrhyw un yn yr eiddo mewn perygl, gan ddweud bod y galwad yn un o dwyll.
Dywedodd Martin Crawley o Heddlu Gwent bod dau berson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad gyda'r galwad.
"Oherwydd natur yr hyn yr oeddem yn ei gredu oedd yn alwad ddilys, er mwyn amddiffyn y dioddefwyr posibl, aeth swyddogion, gan gynnwys swyddogion arfog, i gyfeiriad ar Beatty Road, Ringland.
"Mae menyw 23 oed a dyn 37 oed o ardal Casnewydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyfathrebu'n faleisus ac wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau parhau."
Ychwanegodd fod risg i bob galwad mae'r llu yn derbyn a bod galwadau twyll yn "ein hatal rhag ymateb i alwadau go iawn gan y cyhoedd sydd angen ein cymorth."
Mae Heddlu Gwent hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn cwyn ynglŷn â'r digwyddiad yn Ringland.
Maen nhw ar ddeall bod y person oedd yn byw yn yr eiddo heb ddychwelyd ers y digwyddiad ar 29 Mawrth.
Dywedodd Heddlu Gwent y byddai'n "amhriodol i roi sylw pellach ar hyn o bryd."
Fe wnaeth y gymdeithas dai Hedyn, sef Cartrefi Dinas Casnewydd gynt, cadarnhau eu bod wedi atgyweirio difrod i'r eiddo.
Dywedodd llefarydd: “Rydym yn gweithio gyda’r preswylydd yn Beatty Road ac wedi cwblhau’r atgyweiriadau angenrheidiol.
"Byddwn yn cynnig ein cyngor a chefnogaeth barhaus yn ôl yr angen.”