Newyddion S4C

Ffoaduriaid o Affganistan: ‘Mae gwerth dysgu’r iaith Gymraeg’

ITV Cymru

Ffoaduriaid o Affganistan: ‘Mae gwerth dysgu’r iaith Gymraeg’

Mae ffoadur o Affganistan sydd wedi ffoi i Gymru yn dweud bod yr iaith Gymraeg yn "ddefnyddiol ar gyfer dyfodol" ei deulu. 

Fe wnaeth Takshveer a'i deulu ffoi o Affganistan yn 2024, ac maen nhw ymhlith mwy nag 8,000 o ffoaduriaid yma yng Nghymru. 

Erbyn hyn mae dau o’i blant, Nimrit a Sargun yn mynychu ysgol ddwyieithog yng Nghaerdydd. 

Mae Nimrit sydd ym mlwyddyn chwech yn rhugl yn y Gymraeg ac wedi cofleidio’r Gymraeg fel rhan o’i hunaniaeth newydd. 

“Mae pawb yma mor gyfeillgar ac mae’r athrawon mor garedig. Dwi wedi gwneud ffrindiau Cymraeg ac yn siarad yr iaith pob dydd," meddai.

“Rwy’n gallu siarad pump o ieithoedd gwahanol ac yn caru’r Cymraeg. Ar y dechrau roedd yn anodd i mi ddysgu’r Gymraeg ond erbyn hyn dwi wedi arfer ac yn ei fwynhau.

“Ar y dechrau er mwyn dysgu Cymraeg mi wnes i ddarllen llyfr ac ymadroddion a geiriau fel ‘croeso’ a ‘diolch’ roeddwn yn ei ddweud i fy ffrindiau gyntaf. Roedd yn anodd iawn i gychwyn.”

'Canu caneuon Cymraeg'

I rieni fel Takshveer, mae anfon ei blant i ysgol ddwyieithog yn cynnig gobaith ar gyfer dyfodol disglair. 

“Mae gallu siarad Cymraeg yn sgil ychwanegol ac yn ddefnyddiol ar gyfer eu dyfodol os 'dan ni am aros yma yng Nghymru," meddai.

“Efallai y gallan nhw fynd i fewn i’r maes addysg eu hunain yn y dyfodol fel athrawon. Pam lai?

"Mae nhw yn dod adref o’r ysgol ac yn canu caneuon Cymraeg, darllen cerddi i’w gilydd, mae’n hyfryd i’w gweld nhw’n cael hwyl.”

Mae Oasis, canolfan sydd yn cynnig cymorth i fudwyr yng Nghaerdydd, yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn darparu gwasanaeth hanfodol i gefnogi teuluoedd i integreiddio i’r gymdeithas. 

Maen nhw'n cynnig gweithdai a gwersi Cymraeg wythnosol i annog dysgu’r iaith a dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru.

Drwy gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid sydd wedi ffoi o ryfeloedd, gwrthdaro ac erlidigaeth i Gymru, mae sefydliadau fel Oasis yn helpu i adeiladu dyfodol mwy cynhwysol a sefydlog. 

Yn ôl Oasis, mae’r Gymraeg yn cael croeso cynnes gan deuluoedd sy’n dod i Gymru ac mae un o'i gweithwyr, Kirran Lochhead Strang, yn egluro manteision addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i’r teuluoedd.

Image
Kirran Lochhead Strang
Kirran Lochhead Strang. (Llun: ITV Cymru)

Un o’r tiwtoriaid sy’n dysgu gwersi Cymraeg yn Oasis yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2022, Joe Healy. 

Mae wedi ei syfrdanu gan y brwdfrydedd a’r ymrwymiad mae’r bobl hyn yn ei ddangos i feistrioli iaith newydd mor gyflym. 

"Mae’n helpu nhw i deimlo eu bod nhw’n rhan o’r gymuned yn fwy, ac os ydyn nhw’n gallu siarad Cymraeg, mae’n eu helpu gyda chyfleoedd cyflogaeth a phopeth," meddai.

"Mae llwyth o bobl yn dod yma ac yn siarad Cymraeg – mwy nag y byddech chi’n meddwl. 

"Mae lot ohonynt hefo ieithoedd gwahanol felly nhw’n dod a rhywbeth hollol gwahanol i’r dosbarth. Mae’r rhai sydd yn siarad Arabeg yn gallu ynganu mor dda ac yn gweld lot o tebygrywdd yn eu mamiaith a’r Gymraeg. 

"Mae llawer ohonyn nhw newydd gyrraedd y wlad ac yn cymryd y Gymraeg ymlaen yn syth – maen nhw’n wych.

“Maen nhw’n caru dysgu’r Gymraeg a mae wir yn helpu nhw integreiddio i fewn i’r gymdeithas.”

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod mynediad at addysg iaith Cymraeg yn flaenoriaeth iddynt. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.