Dau o Brydain wedi marw mewn damwain car cebl yn Yr Eidal
Mae dau berson o Brydain ymhlith y pedwar a fu farw ar ôl i gar cebl ddisgyn yn yr Eidal, yn ôl yr heddlu yno.
Fe wnaeth y cerbyd, a oedd yn cysylltu tref Castellamare di Stabia ar gyrion dinas Naples â chopa Fynydd Faito, ddisgyn i'r ddaear am tua 15.00 ddydd Iau, ar ôl i’r weiren dorri.
Mae’r awdurdodau bellach wedi cadarnhau fod dau o’r pedwar oedd yn y car yn dod o Brydain.
Maen nhw wedi eu henwi yn Margaret Elaine Winn, 58 oed, a Graeme Derek Winn, 65 oed.
Bu farw hefyd dynes 25 oed o Israel, Janan Suliman, a gyrrwr y cerbyd, Carmine Parlato, 59 oed.
Mae un dyn a wnaeth oroesi’r ddamwain yn parhau mewn cyflwr difrifol.
Inline Tweet: https://twitter.com/vigilidelfuoco/status/1912948784981541010
Roedd yn rhaid i 16 o bobl mewn cerbyd arall gael eu hachub yn dilyn y digwyddiad, gyda’r car cebl yn sownd ar y weiren ar uchder, ger troed y mynydd.
Roedd yn rhaid i dimau achub ddefnyddio harneisiau er mwyn tywys y bobl allan o’r car fesul un, mewn ymgyrch gymhleth.
Wrth ymweld â’r Arlywydd Donald Trump yn Washington, fe wnaeth Prif Weinidog yr Eidal, Giorgia Meloni, rannu ei chydymdeimlad gyda theuluoedd y rhai a fu farw yn y damwain.
Llun: Vigili del Fuoco