Disgwyl i law trwm achosi oedi i deithwyr dros benwythnos y Pasg
Mae rhybudd melyn am law i rannau o dde Cymru dros benwythnos y Pasg.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 14:00 ar ddydd Gwener y Groglith ac yn parhau tan 09:00 fore Sadwrn.
Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yw'r siroedd fydd yn cael eu heffeithio.
Mae disgwyl hyd at 40mm o law ddydd Gwener ac fe allai hynny godi i 75mm erbyn bore Sadwrn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai llifogydd effeithio ar rai tai a busnesau.
Mae disgwyl y gallai'r amodau achosi oedi ar y ffyrdd ac i wasanaethau trên a bws, gyda'r AA hefyd yn rhagweld y bydd bron i 20 miliwn o bobl yn teithio gyda char yn y Deyrnas Unedig ar Ddydd Gwener y Groglith.
Mae gwaith yn cael ei gynnal gan Network Rail ar draws Cymru a Lloegr dros y dyddiau nesaf wrth i'r cwmni weithio ar 300 o brosiectau peirianneg.
Mae rhybuddion i deithwyr wirio eu cynlluniau gan adael mwy o amser i gyrraedd eu lleoliad.
Mae tagfeydd wedi eu hadrodd ar sawl rhan o'r M4 yn ne Cymru: rhwng cyffordd 28 Parc Tredegar a chyffordd 26 Malpas; tua'r de ger cyffordd 33 rhwng Capel Llanilltern a Chroes Cwrlwys; tua'r gorllewin rhwng cyffordd 40 Taibach a chyffordd 43 Llandarsi; a thua'r dwyrain rhwng cyffordd 45 Ynysforgan a chyffordd 43 Llandarsi.
Ar yr A55, mae'r 'na dagfeydd wrth i draffig deithio tua'r gorllewin, gydag oedi rhwng Cyffordd 35 Dobshill a Chyffordd 34 Ewlo.
Mae Traffig Cymru hefyd yn adrodd bod y traffig yn drwm ar Bont Britannia, gan alw ar bobl i ganiatáu mwy o amser ar gyfer teithio.
Cafodd ffordd yr A4107 ger Pontrhydyfen yng Nghwm Afan ei chau am gyfnod fore Gwener yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.
Mae'r heddlu bellach wedi ail-agor y ffordd.
Mae oedi i wasanaeth bws y 5C rhwng Bangor a Chaernarfon yn ogystal.
Fore Gwener roedd ciwiau mawr ym Mhorthladd Dover gydag amser aros o tua 40 munud i deithwyr.
Ym maes awyr Gatwick hefyd mae dros 100 o aelodau undeb Unite yn streicio dros y penwythnos dros dâl a'u pensiwn.