Newyddion S4C

Pêl-droed: Penwythnos tyngedfennol i dri o glybiau Cymru

Caerdydd, Wrecsam a Merthyr

Wrth i'r tymor pêl-droed agosáu at ei ddiwedd, mae penwythnos y Pasg yn un tyngedfennol i glybiau Caerdydd, Wrecsam a Merthyr.

Bydd y tri chlwb yn chwarae dwy gêm dros y penwythnos ac erbyn nos Lun fe allai'r clybiau i gyd godi neu ddisgyn i gynghrair wahanol.

I Gaerdydd, mae disgyn i Adran Un yn bosibilrwydd wedi rhediad o ganlyniadau gwael dan eu rheolwr Omer Riza.

Gobaith Wrecsam yw ennill eu trydydd dyrchafiad yn olynol a chodi i'r Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 1979.

Dyrchafiad yw'r nod i Ferthyr hefyd, sydd ar frig Uwch Gynghrair Adran y De, sydd dair cynghrair yn is nag Adran Dau lle mae Casnewydd yn cystadlu ar hyn o bryd.

Bydd gemau yn cael eu chwarae ar ddydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg ac fe fydd y darlun yn llawer cliriach erbyn nos Lun.

Adar Gleision yn hedfan i Adran Un?

Pedair gêm sydd yn weddill yn y Bencampwriaeth, ac i Gaerdydd geisio sicrhau eu statws yn y gynghrair am dymor arall.

Ond nid yw'r gemau sydd dal i'w chwarae yn rhai hawdd wrth iddyn nhw herio Sheffield United, Oxford United, West Bromiwch Albion a Norwich City.

Mae Sheffield United yn drydydd yn y gynghrair, ond maen nhw wedi colli eu tair gêm ddiwethaf.

Bydd gemau West Brom a Norwich yn her, wrth i West Brom frwydro am safle yn y gemau ail-gyfle a Norwich yn safle 13 yn y gynghrair.

Image
Omer Riza
Mae rheolwr Caerdydd, Omer Riza dan bwysau gyda'r Adar Gleision yn agos at ddisgyn i Adran Un. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Yr hyn sydd yn gwneud sefyllfa Caerdydd yn anoddach yw bod angen iddynt ddibynnu ar dimau o'u cwmpas yn colli.

Maen nhw yn safle 22 allan o 24, gyda'r tri chlwb isaf yn disgyn i Adran Un.

42 pwynt sydd gan Gaerdydd, tra bod Derby County ar 43 ac un safle uwch ben yr Adar Gleision. Yn safle 20 mae Hull City ar 45 pwynt.

Fe allai nifer o bethau ddigwydd dros y penwythnos, ond os nad yw Caerdydd yn ennill un o'u dwy gêm a bod y timau o'u cwmpas yn cyrraedd 48 pwynt, fe fydd Caerdydd yn disgyn i Adran Un.

Ond gyda chymaint o dimoedd yn agos i'r safleoedd disgyn mae hynny'n annhebygol iawn o ddigwydd.

Os ydy tîm Omer Riza yn ennill neu'n sicrhau gêm gyfartal, bydd y frwydr i aros yn y Bencampwriaeth fwy na thebyg yn parhau tan ddiwedd y tymor.

Mae llawer yn dibynnu ar ganlyniadau timau eraill, felly fydd y penwythnos yn un llawn nerfau i gefnogwyr Caerdydd.

Y Dreigiau yn rhuo unwaith eto?

Fel y digwyddodd y llynedd a'r tymor cynt, mae Wrecsam yn ceisio sicrhau diweddglo Hollywood unwaith eto.

Yn yr ail safle yn Adran Un, mae'r dasg yn syml i dîm Phil Parkinson; ennill y pedair gêm sy'n weddill a bydd y clwb yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Ond dydy'r dasg ddim mor hawdd â hynny, gyda Wycombe Wanderers un pwynt y tu ôl iddynt, felly nid oes lle am gamgymeriadau.

Mae Wrecsam yn sicr o'u lle yn y gemau ail-gyfle os nad ydynt yn gallu llwyddo i ennill dyrchafiad yn awtomatig.

Ail safle yw'r gorau gallen nhw orffen yn y gynghrair gyda Birmingham eisoes wedi cipio tlws Adran Un.

Bydd Wrecsam yn wynebu Bristol Rovers, sydd yn agos at waelod y gynghrair, a Blackpool sydd yn safle 10 yn Adran Un, dros y penwythnos.

Ac fe fydd Wycombe yn herio dau dîm fydd yn gobeithio selio eu lle yn y gemau ail-gyfle, Bolton Wanderers a Charlton Athletic.

Image
Sam Smith
Bydd Wrecsam yn gobeithio y bydd Sam Smith yn parhau i ddarganfod y rhwyd yn erbyn Bristol Rovers a Blackpool. (Llun: CPD Wrecsam)

Pe bai Wrecsam yn ennill eu dwy gêm a Wycombe yn eu colli, fe fydd Wrecsam yn ennill dyrchafiad.

Byddai unrhyw ganlyniadau eraill mwy na thebyg yn golygu y bydd angen i'r Dreigiau aros o leiaf wythnos arall cyn, o bosib, dathlu dyrchafiad.

Ond byddai ennill eu gemau sy'n weddill yn golygu na fydd Wycombe yn gallu neidio uwchben Wrecsam yn y gynghrair.

A pe bai hynny'n digwydd, bydd Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn dathlu eu trydydd dyrchafiad mewn cyfnod o dair blynedd.

Merthyr i ennill y gynghrair?

Dros y misoedd diwethaf mae Merthyr wedi eistedd yn gyfforddus ar frig Uwch Gynghrair Adran y De, ond mae dwy golled yn olynol wedi tynhau'r bwlch rhyngddynt a Totton yn yr ail safle.

Ond yn wahanol i gynghreiriau'r EFL lle mae Caerdydd a Wrecsam yn chwarae, bydd tymor Merthyr yn dod i ben mewn wythnos.

Ac erbyn prynhawn ddydd Gwener mae'n bosib y bydd y clwb yn dathlu dyrchafiad i Adran De'r Gynghrair Genedlaethol, neu'r National League South.

Os ydy'r clwb yn ennill erbyn Sholing, a Totton yn colli yn erbyn Basingstoke fe fyddan nhw wedi sicrhau mai nhw fydd enillwyr y gynghrair.

Fyddai unrhyw ganlyniadau eraill yn golygu na fydd y clwb yn ennill y gynghrair ddydd Gwener.

Ond fe allai'r clwb ennill y gynghrair ym Mharc Penydarren ddydd Llun yn erbyn Hungerford.

Os ydyn nhw'n ennill y gêm honno ni fydd Totton yn gallu cyrraedd yr un nifer o bwyntiau â nhw.

Felly dwy fuddugoliaeth ac fe fydd Merthyr yn ennill dyrchafiad i Adran De'r Gynghrair Genedlaethol.

Os na fydd Merthyr yn gallu cipio'r teitl, bydd angen iddyn nhw chwarae yn y gemau ail-gyfle rhwng y timoedd sydd yn gorffen rhwng safleoedd dau a saith, i geisio ennill dyrchafiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.