Newyddion S4C

Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi diflaniad menyw o Gaerdydd

Paria Veisi

Mae Heddlu'r De wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi diflaniad menyw o Gaerdydd. 

Nid yw Paria Veisi o Cathays wedi cael ei gweld ers tua 15:00 ar ddydd Sadwrn, 12 Ebrill pan adawodd ei gwaith yn Nhreganna. 

Mae dyn 41 oed a menyw 48 oed yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. 

Y gred yw eu bod nhw'n adnabod Ms Veisi. 

Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn cadarnhau bod Ms Veisi wedi gadael ardal Treganna ar ddydd Sadwrn, 12 Ebrill, yn ei Mercedes GLC 220 du. 

Mae ganddi wallt hir, cyrliog, du, ac roedd yn gwisgo top du ar ben un coch, trowsus du, ac esgidiau rhedeg pan welwyd hi ddiwethaf. 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: "Gallaf gadarnhau fod yr ymchwiliad i ddiflaniad Paria Veisi bellach yn ymchwiliad llofruddiaeth. Ar hyn o bryd, does gen i ddim tystiolaeth fod Paria yn fyw.

"Mae ei theulu a'i ffrindiau yn bryderus iawn nad ydyn nhw wedi clywed ganddi, sydd yn anarferol iawn i'w chymeriad hi. 

"Mae gennym ni ddau berson yn y ddalfa, ac ar hyn o bryd, nid ydym ni'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad."

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500116906.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.