
Owain Arthur: Actio yn Lord Of The Rings yn 'gyffrous dros ben'
"Cyffrous dros ben" yw'r geiriau mae'r actor Owain Arthur yn eu defnyddio i ddisgrifio ei gymeriad diweddaraf mewn rhaglen deledu fyd-eang.
Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas yng Ngwynedd bydd Owain Arthur yn chwarae rhan Tywysog Durin IV yn rhaglen deledu Lord Of The Rings: The Rings Of Power.
Er bod nifer wedi dod i wybod ei fod yn y ffilm newydd, dim ond ddydd Iau cafodd ei gymeriad i'w gyhoeddi - rhywbeth sy'n rhyddhad mawr i'r actor.
"Mae’r ymateb wedi bod yn dda, ond mae’n rhyddhad rŵan cael dweud mwy am be oni’n neud a pa gymeriad dwi’n chara ynddo fo," meddai wrth Newyddion S4C.
Yng Nghymru mae'r actor yn adnabyddus yn ei rôl fel Aled yn rhai o gyfresi cyntaf Rownd a Rownd ac amrywiaeth o raglenni eraill ar S4C.
Mae hefyd wedi cael sylw rhyngwladol am ei ran yn chwarae rhan Francis Henshall yn y sioe One Man, Two Guvnors.
'Oni'n buzzian'
Dywedodd ei fod wedi neidio am y cyfle i fod yn rhan o'r ffilm a'i fod wedi bod yn ‘brofiad gwych’.
"Oedd o yn gyffrous iawn cael cynnig gwneud y rhan yma achos bod o yn hollol wahanol i unrhyw beth yn y byd rili.
“Mae o’r unig adag rili lle dwi wedi dod off set ar ôl neud cynnig lle oni’n buzzian rili yn dod off, so oedd o yn gyffrous dros ben.”
“Mae ‘na bwysa ar dy ysgwydda di pam ti’n cymryd rhan fel hyn, mewn rhywbeth mor fyd-eang mae pawb yn gwybod am danna fo.
“Tra ti’n neud o ma’r ffocws jysd ar be ti’n neud yn y foment yna felly alli di ddim gadael i hynny fynd ar ffordd dim byd pam wyt ti’n gweithio, ti jysd yn gweithio ar y sgript a’i ddatblygu fo a ti’n siarad efo’r sgwennwyr a ma’ nhw’n un ai ysbrydoli chdi neu yn datrys problemau.
“Oedd o yn brofiad gwych o ran hynny, bo’ fi efo gymaint o input yn greadigol hefyd, bo’ ni’n sgwrsio efo’n gilydd am sut ma’r cymeriad yn datblygu."
Cafodd lluniau o Owain fel ei gymeriad yn ei wisg fawr, gwallt blewog a cholur ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Vanity Fair ddydd Iau.

"Ma’ rhaid fi ddeud tra oedda’ ni’n ffilmio, oedd o yn waith caled. Oni’n chwysu llwyth yn yr holl ddillad a’r holl golur.
“Mae o i gyd yn highlight. Diwedd bob dydd yn highlight dwi’n meddwl pan oni’n cael tynnu’r holl golur ‘na ffwrdd a gwybod bo’ fi wedi llwyddo ac wedi syrfeifio diwrnod ar set efo’r holl betha. A theimlo bo’ fi wedi gwneud joban golew o honni gobeithio."
'Diolch i Rownd a Rownd'
Yn ôl Owain Rownd a Rownd oedd "dechreuad ei yrfa."
"Ma’ pob job dwi’n gwneud wan, dwi’n cymharu fo efo fo.
“Hwnna oedd gwraidd fy ngyrfa fi rili, felly dwi’n hynod o lwcus i Rondo ac S4C a phawb sy'n Porthaethwy yn gweithio a bo’ fo wedi cael y cyfle yna ac wedi cael cymaint o amser hefyd i ddatblygu o oed ifanc iawn.
“Felly mae lot o’r diolch yn mynd i Rownd a Rownd."
Bydd trelar The Rings Of Power yn cael ei darlledu am y tro cyntaf yn ystod Super Bowl ddydd Sul cyn iddo gael ei ryddhau ar Prime Video mis Medi.
Llun: Vanity Fair a S4C.