Cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol Gymraeg ym Mhenfro

08/02/2022
Cyngor Sir Penfro

Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg ym Mhenfro ddydd Mawrth - y gyntaf yn y dref.

Mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio ddydd Mawrth, fe bleidleisiodd 10 cynghorydd o blaid y cynlluniau gydag un cynghorydd yn ymatal.

Fe fydd yr ysgol yn darparu addysg brif ffrwd ar gyfer 210 o ddisgyblion 5-11 oed, yn ogystal â 30 lle mewn uned feithrin.

Fe fyddai gofal plant hefyd ar gael ar gyfer plant hyd at 11 oed.

Mae'r lleoliad arfaethedig ger Ysgol Harri Tudur, ysgol uwchradd cyfrwng-Saesneg y dref.

Ar hyn o bryd, mae disgyblion sy'n dymuno addysg gynradd Gymraeg yn y dref yn mynychu ysgol ddwyieithog Ysgol Gelli Aur.

'Ardal brysur iawn'

Cafodd nifer o bryderon eu codi gan aelodau'r pwyllgor am reoli traffig yn yr ardal a mynediad i'r safle.

Dywedodd Cynghorydd Gogledd Ddwyrain Abergwaun Myles Pepper y byddai'r mynediad i'r safle yn "hunllef".

Dywedodd un cynghorydd ei fod yn gefnogol o ysgol gynradd Gymraeg yn yr ardal ond ei fod yn cwestiynu pam fod yn rhaid dewis y safle dan sylw gan ei fod yn "ardal brysur iawn".

"Rwyf wir, wir yn amau rhesymeg y bobl sydd am ei rhoi yna", meddai Cynghorydd Pennar, Tony Wilcox, a wnaeth ymatal o'r bleidlais gan ei fod yn aelod o Lywodraethwyr ysgol leol.

Fe ddywedodd Cynghorydd Tref Arberth, Vic Dennis, fod "pryderon am ddarpariaeth drafnidiaeth gynaliadwy" gan ychwanegu ei fod yn "ddewis gwael o ran safle".

Ond dywedodd y Cynghorydd Brian Hall ei fod yn "safle delfrydol yn fy marn i".

Cyngor Sir Penfro oedd yn cyflwyno'r cais i'r Pwyllgor Cynllunio, i adeiladu'r ysgol ar 3.3 hectar o dir sy'n bennaf amaethyddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.