
Adnewyddu y cwch olaf i rwydo samon ar lannau’r Fenai
Adnewyddu y cwch olaf i rwydo samon ar lannau’r Fenai
Mae’r cwch olaf trwyddedig i rwydo eogiaid ar y Fenai wedi cael ei adnewyddu a’i osod fel cofeb i hanes pysgota ar y cei yng Nghaernarfon.
Roedd cwch y GSB1 – ei rif cofrestru gan ddefnyddio enwau afonydd Gwyrfai, Seiont a Braint – wedi’i adael mewn cyflwr truenus ac yn cael ei ddefnyddio i ddal blodau ar lannau’r Fenai pan gafodd ei achub gan griw o bysgotwyr lleol.
Fe’i gadawyd i bydru wedi i’r Awdurdod Afonydd gau’r bysgodfa yn 1998.
Bu’n rhaid i’r pysgotwyr weithio’n galed i wagio’r cwch o tua dwy dunnell o bridd – cyn dechrau’r gwaith o’i adnewyddu.

Ymysg y rhai fu’n ei hatgyweirio mewn sied yn Y Felinheli oedd Alun Lewis Jones, saer cychod a fu farw bedair blynedd yn ôl oedd yn awdur llyfr Hanes Cychod Salmon Caernarfon.
Un arall oedd yn rhan o’r gwaith atgyweirio oedd ei fab Bryn, fuodd yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith dros y cyfnod clo, a hefyd perchennog olaf y cwch sef Robert (Wax) Watkinson.
Dywedodd Bryn wrth Newyddion S4C: “Dwi wedi cael y fraint o weithio arno fo. Mae’r asennau newydd yn dderw ac mae llwyfen (elm) neu dderw yn plygu yn dda. Fe fydd yn para am byth.”
Defnyddiodd goedyn Douglas fir ar gyfer y gwaith plancio a choedyn tywydd têc (teak) bob pen i’r cwch.
Adnewyddwyd asennau gwreiddiol y cwch i gyd ac ychwanegodd Bryn fainc ato i alluogi pobl i eistedd.
Yr wythnos ddiwethaf daeth pedwar o bysgotwyr arferai ddefnyddio’r cwch i’w weld drostynt eu hunain ac i hel atgofion.

Roedd y criw olaf yma - Geoffrey Jones, David Watkinson, Robert Watkinson y capten a Terry Watkinson - yn arfer mynd allan i bysgota dwywaith y dydd rhwng y ddau lanw.
Dywedodd Robert Watkinson: “Oedda ni yn eistedd am ychydig (i syllu ar y Fenai). Os oedd y fish yn jympio, oedda ni yn mynd allan.”
Eglurodd Geoffrey sut yr oeddynt yn ffurfio “cylch efo rhwyd ac yna’n tynnu rhaff gyda’r rhwyd yn cau am y pysgod.”
Dywedodd: “Oedd o’n braf gweld y pysgod yn y rhwyd. Oedd Robat neu Terry yn dweud: ‘Mae o yna’. Unwaith oeddat ti’n clywed hynny oedd dy galon di’n codi yn de.”
Disgrifiodd Geoffrey yr olygfa wefreiddiol o gael llond rhwyd o eogiaid: “’R'un fath ac wyau mewn sosban yn crynu i gyd.”
Llwyddodd Gwynedd Roberts, cyfarwyddwr Galeri, Caernarfon i gael grant i dalu am adnewyddu'r cwch fel rhan o’r cynllun i adnewyddu’r Cei Llechi.
Dros y blynyddoedd bu rhwydo eogiaid yn fywoliaeth go llewyrchus i nifer fawr o deuluoedd Caernarfon.
Ym 1966, cafodd criw o Gaernarfon ddalfa sy’n dal yn record sef 120 o eogiaid oedd yn werth crocbris yr adeg hynny.
Fel arfer byddai'r eogiaid yn cael eu gwerthu i fasnachwyr yng Nghaernarfon neu aed a nhw i fasnachwyr yn Llandudno a fyddent yn aml yn eu gwerthu i westai yn Llundain gan eu gyrru ar y trên yno, wedi’i gorchuddio mewn ia i’w cadw’n ffres.
Ond daeth diwedd i’r traddodiad o ddefnyddio rhwydi i bysgota salmon yn 1998 pan benderfynodd yr Awdurdod Afonydd eu bod nhw eisiau rhwystro’r defnydd o gychod salmon yn yr aberoedd.
Breuddwyd Alun, a gobaith Bryn a physgotwyr eraill ardal Caernarfon, yw ail agor y bysgodfa a’r traddodiad o bysgota gyda rhwydi unwaith eto ar lannau’r Fenai.