Newyddion S4C

Y chwilio am fachgen 'bregus' ar goll yn Llandudno'n canolbwyntio ar y môr

Athrun

Mae'r heddlu sy'n chwilio am fachgen 16 oed "bregus" aeth ar goll yn Sir Conwy dros y penwythnos bellach yn canolbwyntio ar y môr.

Mae Athrun yn dod o Sir Gaerloyw ac roedd ar ei wyliau yn Llandudno. 

Cafodd ei weld ddiwethaf am 14.00 ddydd Sadwrn ar draeth Pen Morfa yng ngorllewin y dref mewn trowsus nofio.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod ganddo wallt byr tywyll a'i fod tua chwe throedfedd o daldra. 

Ers prynhawn dydd Sadwrn, mae'r llu a gwylwyr y glannau wedi bod yn chwilio amdano "ar y tir, y dŵr ac o'r awyr". 

Mae tîm chwilio tanddwr arbenigol bellach yn chwilio amdano yn y môr.

Apêl am wybodaeth

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: "Mae ardaloedd sylweddol o Landudno eisoes wedi cael eu chwilio.

"Ein ffocws heddiw yw chwiliadau dŵr gyda chydweithwyr o’r tîm chwilio tanddwr a gwylwyr y glannau.

"Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn ardal Pen Morfa yn Llandudno brynhawn Sadwrn."

Ychwanegodd: "Rydym yn awyddus iawn i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi tynnu lluniau – boed nhw'n hunluniau neu'n lluniau teuluol – lle gallen nhw fod wedi dal Athrun a’i deulu yn y cefndir. Hoffwn apelio arnynt i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. 

"Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Pen Morfa brynhawn Sadwrn ac sydd efallai â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â ni."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod C067064.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.