Mamau'n profi 'poen' a 'thrawma' wrth roi genedigaeth mewn ysbyty yn Abertawe
Mae rhai mamau wedi gorfod rhoi genedigaeth ar eu pennau eu hunain gan ddioddef “poen” a “thrawma” mewn ysbyty yn Abertawe, yn ôl adroddiad newydd.
Roedd y profiad o gael babi yn Ysbyty Singleton wedi achosi rhai mamau i benderfynu peidio â chael plant eto yn y dyfodol, meddai’r adroddiad gan gorff annibynnol Llais.
Fe gafodd dros 500 o bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn yr ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu holi am eu profiadau.
Dywedodd un fam mai cael babi yn Ysbyty Singleton oedd “un o'r prif resymau na fyddaf yn cael mwy o blant. Allai ddim mynd drwy hynny i gyd eto,” meddai.
Daw’r adroddiad yn dilyn adroddiad blaenorol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Medi 2023. Roedd yr adroddiad hwnnw’n galw am weithredu ar frys yn uned famolaeth yr ysbyty.
Mae adroddiad Llais bellach wedi datgelu fod angen gwelliannau pellach, gyda nifer o deuluoedd yn dweud nad oeddent yn derbyn unrhyw gefnogaeth ar adegau yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth eu babanod, a’r cyfnod ôl-enedigol.
Roedd rhai o’r problemau mwyaf amlwg i’w wneud ag ansawdd gofal a chyfathrebu, gyda rhai mamau yn dweud nad oedd eu poen corfforol nac eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif.
'Dyw e ddim yr Hilton'
Dywedodd nifer o famau nad oeddent yn teimlo’n ddiogel trwy gydol yr holl broses, gyda nifer hefyd yn dweud nad oeddent yn teimlo fel eu bod yn cael eu clywed gan staff.
Cafodd un fam wybod nad oedd hi ar fin geni. Ond roedd hynny'n anghywir. "Cefais fy mabi ar y toiled" yn ddiweddarach o ganlyniad, esboniodd.
“Roeddwn i’n sôn o hyd fy mod i mewn poen, ond dywedon nhw wrthyf nad oeddwn i,” meddai mam arall.
Dywedodd mam arall ei bod wedi cael ei gadael i orffwys yn ei gwely wedi ei gorchuddio mewn gwaed.
Pan ofynnodd mam arall am glustog, fe ofynnodd aelod o staff: “Beth wyt ti’n meddwl yw hyn? Dyw e ddim yr Hilton.”
Dim ond Ysbyty Singleton oedd yn cynnal gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar y pryd.
Bellach, mae’r Bwrdd wedi ailagor Uned Geni Castell-nedd Port Talbot a gwasanaethau genedigaethau yn y cartref mewn ymateb i’r pryderon.
Mae Prif Weithredwr Llais, Alyson Thomas, wedi dweud ei bod yn croesawu’r newidiadau yma.
'Angen gweithredu'
Yn ôl Ms Thomas, mae'r profiadau sydd wedi eu hadrodd yn peri pryder mawr ac mae angen iddynt “arwain at weithredu.”
Dywedodd bod “rhai o’r pethau a glywsom” yn debyg i’r hyn sydd wedi eu hadrodd yn adolygiadau mamolaeth eraill ledled y DU – gan gynnwys yng Nghwm Taf Morgannwg ac Amwythig a Telford.
“Mae natur ailadroddus y pryderon hyn yn tynnu sylw at yr angen am ddysgu ar draws y system, yn enwedig o ran arweinyddiaeth, diwylliant, a sut mae gwasanaethau’n gwrando ac yn ymateb i adborth,” meddai.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Jan Williams ei bod yn awyddus i “ymddiheuro unwaith eto” ac yn cydnabod y “trawma a’r straen” mae rhai pobl wedi dioddef yn dilyn profiadau gwael.
Bydd adroddiad Llais yn cyfrannu at adolygiad annibynnol ehangach o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.
Fel Cadeirydd yr adolygiad hwnnw, dywedodd Dr Denise Chaffer bod adroddiad Llais wedi “rhoi adborth pwysig” iddynt.
Mae disgwyl i’r adroddiad annibynnol gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Gorffennaf.