Newyddion S4C

Dyn o Lantrisant i gael ei ddedfrydu am geisio llofruddio plismon yn Nhonysguboriau

Alexander Dighton

Mae disgwyl i ddyn a blediodd yn euog i geisio llofruddio plismon mewn gorsaf heddlu yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf ddiwedd mis Ionawr gael ei ddedfrydu ddydd Mawrth. 

Bydd Alexander Dighton o Lantrisant yn ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain wedi iddo bledio’n euog i 10 cyhuddiad yn ei erbyn ddiwedd mis Mawrth. 

Fe glywodd y llys ar y pryd mai ei reswm am yr ymosodiad ar 31 Ionawr oedd am ei fod yn dal dig gyda'r awdurdodau.

Cafodd ei weld ar deledu cylch cyfyng yn cerdded ar draws y stryd i'r orsaf heddlu ar noson yr ymosodiad yn cario sach deithio fawr a pholyn pren hir.

Ychydig cyn 19:00, taniodd fom tân a’i daflu at fan yr heddlu.

Pan fethodd â thanio, tywalltodd botel ar fonet y fan a cheisio ei rhoi ar dân.

Aeth ymlaen i ddefnyddio'r polyn pren i dorri ffenestri'r fan. 

Fe ddefnyddiodd y polyn i daro plismon ar ei ben yn diweddarach yn ogystal a thrywanu swyddog arall yn ei goes.

Cafodd dau o'r tri swyddog a gafodd eu hanafu yn ystod yr ymosodiad eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.

Cyhuddiadau

Fe blediodd Dighton, oedd yn cynrychioli ei hun yn ystod yr achos llys ym mis Mawrth, yn euog i 10 cyhuddiad i gyd. 

Roedd rheiny’n cynnwys ceisio llofruddio, ymosod gan achosi niwed corfforol, ymosod ar weithiwr brys, llosgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant a dau gyhuddiad o fod â llafn yn ei feddiant.

Cyfaddefodd i ymgais i lofruddio’r Ditectif Gwnstabl Jack Cotton, ceisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i'r Rhingyll Richard Coleman, ymosod ar y Cwnstabl Joshua Emlyn a bygwth y Cwnstabl Stephanie Fleming â pholyn pren.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.