Blwyddyn o garchar i ddyn am ddyrnu bachgen 14 oed mewn gorsaf fysiau
Mae dyn a wnaeth ddyrnu bachgen 14 oed tra'r oedd yn eistedd mewn gorsaf fysiau gyda'i fam wedi cael ei garcharu ddydd Llun.
Clywodd Llys y Goron Llandudno fod Lloyd Hughes, 36 oed, wedi ymosod ar y bachgen ger siop Sainsbury's yn Y Rhyl.
Roedd Hughes wedi meddwi adeg yr ymosodiad ar 6 Rhagfyr y llynedd.
Cafodd ei garcharu am gyfnod o flwyddyn ac mae'n destun gorchymyn am bum mlynedd sydd yn ei atal rhag mynd i siopau Sainsbury's yng Nghymru a Lloegr ac i siop fetio William Hill.
Roedd Hughes yn cydnabod bod yr ymosodiad ar y bachgen yn "anfaddeuol", meddai ei gyfreithiwr David Jones wrth y llys.
Cyfaddefodd Hughes i ddau ymosodiad gwahanol, torri sbectol y bachgen 14 oed, a bod â chyllell yn ei feddiant yn siop William Hill ym Mhrestatyn ym mis Chwefror.
Clywodd y llys bod un o weithwyr William Hill yn ofni y byddai'n cael ei drywanu gan Hughes, oedd yn aml yn y siop fetio.
Dywedodd David Jones ar ran yr amddiffyniad bod iechyd meddwl Hughes wedi dirywio a'i fod wedi bod yn ddigartref am gyfnodau.
Dywedodd y Barnwr Gwyn Jones bod Hughes yn anhapus wedi iddo gael ei atal rhag cael mynediad i Sainsbury's a'i fod wedyn wedi dyrnu'r bachgen.
“Rhaid ei fod wedi bod yn gyfnod hynod bryderus iddo ef a’i fam,” meddai.