Cwest yn clywed fod dyn wedi marw ar ôl cael sioc drydanol ar fferm
Mae cwest i farwolaeth dyn ar fferm yn Sir Conwy wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i sioc drydanol.
Cafodd cwest i farwolaeth Andrew Lloyd, 56 oed, o Lanelian, ger Bae Colwyn ei agor yn Llys y Crwner yn Rhuthun ddydd Llun.
Roedd Mr Lloyd yn dad i dri o blant, yn daid ac yn gyd berchennog ar fusnes adeiladu teuluol.
Wrth agor y cwest, dywedodd Uwch Grwner rhanbarth dwyrain a chanol gogledd Cymru, John Gittins, fod Mr Lloyd wedi ei ddarganfod yn farw ar fferm Tan y Dderwen, ym Metws yn Rhos ar ddydd Llun 1 Mai.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r fferm toc wedi 10.00 yn dilyn digwyddiad yno.
Roedd Mr Lloyd wedi teithio i'r fferm mewn tryc er mwyn gollwng llwyth o rwbel, ble roedd sied yn cael ei adeiladu.
Ar ôl cyrraedd y safle a stopio'r cerbyd, fe wnaeth Mr Lloyd godi bwced ar gefn y tryc.
Fe wnaeth hynny achosi i'r bwced gyffwrdd â gwifrau trydanol uwchben, oedd â 120,000 foltiau o drydan yn rhedeg drwyddynt.
Yna, fe wnaeth Mr Lloyd adael y tryc er mwyn ceisio gostwng y bwced gyda'r lifer ar ochr y cerbyd.
Ond wrth gyffwrdd â'r grisiau metel ar ochr y cerbyd, fe gafodd sioc drydanol.
Bu farw yn y fan a'r lle.
Yn ôl y crwner, cafodd y digwyddiad ei gyfeirio at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, tra bod cwmni Scottish Power wedi eu galw i wirio'r cyflenwad trydanol.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.