Heddlu yn ymchwilio i dân yn nhŷ Syr Keir Starmer
Mae heddlu gwrth derfysgaeth yn rhan o'r ymchwiliad i dân a gynheuodd yng nghartref blaenorol y Prif Weinidog Syr Keir Starmer yng ngogledd Llundain yn ystod oriau mân fore Llun.
Mae difrod i fynedfa'r cartref ond chafodd neb ei anafu, yn ôl Heddlu'r Met.
Mae Syr Keir Starmer yn byw yng nghartref swyddogol y Prif Weinidog yn Downing Street, ond y gred yw ei fod yn dal yn berchen ar y cartref, lle roedd yn arfer byw yn Kentish Town, a'i fod yn dŷ rhent bellach.
Mae Syr Keir Starmer wedi diolch i’r gwasanaethau brys aeth i ddiffodd y tân, yn ôl Downing Street.
Mae cordon yr heddlu wedi ei osod o amgylch yr adeilad
Ar un adeg, roedd rhan o'r stryd ar gau i gerbydau.
Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog: “Ni allaf ond dweud bod y Prif Weinidog yn diolch i’r gwasanaethau brys am eu gwaith ac mae’n destun ymchwiliad byw.
"Felly ni allaf wneud sylw pellach.”
Llun: PA