Newyddion S4C

Gobeithion bod ail-agor lido Brynaman gam yn nes

Newyddion S4C 26/01/2022

Gobeithion bod ail-agor lido Brynaman gam yn nes

Mae pwyllgor o bobl leol yn "hyderus" eu bod gam yn nes at ail-agor lido Brynaman yn Sir Gaerfyrddin. 

Cafodd y pwll nofio awyr agored ei agor yn yr 1930au ond mae wedi bod ar gau ers 2010 ar ôl i dywydd garw ddifrodi’r safle. 

Ddwy flynedd yn ôl, cafodd cynlluniau newydd ar gyfer y lido eu cyhoeddi wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin gytuno i drosglwyddo'r pwll i ofal Pwyllgor Lido Brynaman. 

Oherwydd y pandemig, bu oedi yn y broses drosglwyddo. Ond bellach, mae'n ymddangos y gallai'r cyngor drosglwyddo'r lido i'r pwyllgor o fewn y mis. 

'Hyder'

Mae'r cyngor wedi dechrau clirio sbwriel, hen ddodrefn a gwastraff o’r safle. 

Ar ôl i'r drysau fod ar gau am dros ddegawd, mae aelodau'r pwyllgor yn awyddus i ddechrau ar gynlluniau i wella cyflwr y safle. 

“Y gwahaniaeth nawr dwi’n credu yw bod mwy o gefnogaeth gyda ni.” Meddai Eleri Ware, aelod o Bwyllgor Lido Brynaman. 

Image
Eleri Ware
Dywedodd Eleri Ware fod cefnogaeth i gynlluniau'r pwyllgor wedi tyfu

“Mae pobl yn fwy positif nawr na beth o’ nhw pan ddechreues i ar y pwyllgor yn 2014. Rodd pobl yn meddwl bod ddim siawns i gael hwn nôl fel oedd e.

"Ond nawr fi’n gweld fod hyder gyda nhw y bydd hwn yn agor eto. A hefyd ar ôl covid, mae’n bwysig i gael pwll awyr agored i bobl cael dod a chadw’n heini, nofio a bod gyda’i gilydd yn yr awyr agored.”

Cafodd y pwll ei gau yn wreiddiol ar ôl i dywydd garw achosi difrod gwerth £20,000 i'r safle. 

Cododd y costau'n sylweddol i £170,000 ar ôl rhagor o ddifrod gan storm arall. 

Mae'r pwyllgor nawr yn anelu i godi miliwn o bunnau trwy roddion a grantiau er mwyn ail-agor y lido ar gyfer y gymuned leol. 

“Ni’n hyderus. Mae nifer o bobl wedi ymateb i’r negeseuon Facebook diweddar ac yn holi am ffyrdd i wirfoddoli a ry’ ni’n derbyn cyfraniadau ar lein," meddai Janet Illet, aelod arall o'r pwyllgor. 

"Mae’r gefnogaeth yn lleol yn cynyddu’n ddyddiol. Bydd codi miliwn o bunnau yn her enfawr, ond ry’ ni’n hyderus bod modd cyrraedd y targed.”

Image
Lido Brynamman
Mae lido Brynaman wedi bod ar gau ers 2010 yn dilyn tywydd garw.

Mae gan y pwyllgor gynlluniau i agor caffi ar y safle, gan sicrhau bod y lido yn cael ei adfer mewn modd carbon niwtral, gan ddefnyddio planhigion i lanhau'r dŵr er mwyn lleihau'r angen am gemegion. 

Mae'r pwyllgor hefyd yn bwriadu gwresogi'r pwll, fel bod modd i'r lido aros ar agor gydol y flwyddyn yn hytrach na'r haf yn unig. 

Cyn ei gau, roedd 2,000 o bobl yn ymweld â'r lido bob haf. Mae Eleri Ware yn gobeithio gall gwaith y pwyllgor ddenu pobl leol yn ôl i'r pwll. 

"Odd e’n fantastic - yn llawn plant bob dydd yn yr haf," meddai.

"Dyw llawer o blant fan hyn ddim yn mynd ar wyliau haf. Hwn oedd y gwyliau iddyn nhw. Roedd llawer o swn, lot o joio."

"Sdim lot o bobl ifanc yn cofio’r pwll nawr ac mae ishe rhywle ar y bobl ifanc yma, rhywle iddyn nhw gwrdd, cael sbri a chadw’n heini hefyd.”

Nod y pwyllgor yw ail-agor lido Brynaman erbyn 2024. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.