Newyddion S4C

Yr ysgol sy'n cynnal Eisteddfod ers dros 60 mlynedd - ar gyrion Birmingham

23/01/2022

Yr ysgol sy'n cynnal Eisteddfod ers dros 60 mlynedd - ar gyrion Birmingham

Pe baech chi'n gofyn i bobl yng Nghymru i esbonio beth yw Eisteddfod, fe fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn medru eich ateb. 

Mae gan lawer ohonom atgofion melys - neu efallai anghyfforddus - o gystadlu yn ystod ein hamser yn yr ysgol. 

Er bod y gystadleuaeth yn rhan gyfarwydd o blentyndod yma yng Nghymru, mae'n anghyffredin i weld plant yn dawnsio gwerin neu'n cystadlu'n flynyddol am y gadair tu hwnt i Glawdd Offa - heblaw am o bosib yn y Wladfa. 

Ond nid oes rhaid teithio i Batagonia i ddarganfod Eisteddfod tu hwnt i Gymru, gan fod traddodiad eisteddfodol yn parhau mewn cornel fach o ganolbarth Lloegr.

Yno mae un ysgol wedi cynnal Eisteddfod flynyddol ers dros 60 mlynedd bellach. 

Er bod Fairfax Academy wedi'i lleoli yn Sutton Coldfield ger Birmingham, mae disgyblion wedi cystadlu yn Eisteddfodau'r ysgol ers 1961. 

'Y plant yn ei garu fe'

Fe gafodd yr Eisteddfod gyntaf ei chynnal gan sylfaenydd yr ysgol, Gordon Philpott, wedi iddo sefydlu'r academi yn 1959. 

Dydy athrawon yr ysgol uwchradd ddim yn sicr pam benderfynodd Mr Philpott i gyflwyno'r traddodiad Cymreig i ysgol Saesneg. 

Image
Eisteddfod

Mae rhai yn amau fod y traddodiad wedi dechrau ar ôl awgrym gan athro mathemateg oedd yn aelod o staff yr ysgol yn y blynyddoedd cynnar. 

Serch y dirgelwch o gwmpas tarddiad yr Eisteddfod, mae disgyblion yr ysgol yn awyddus i gystadlu bob blwyddyn. 

"Mae'r plant yn ei garu fe," meddai Rachel Boyce, un o ddirprwy benaethiaid Fairfax, a chyd-lynnydd yr Eisteddfodau. 

"Mae gymaint ohonyn nhw yn cymryd rhan, ac mae yna gymaint o frwdfrydedd am gymryd rhan 'fyd.

"Mae'n un o nodweddion unigryw'r ysgol ac mae'n atyniad i rieni i ddanfon eu plant i'r ysgol." 

Image
Eisteddfod

Mae Eisteddfod Fairfax yn cynnwys elfenau traddodiadol sy'n gyfarwydd i ni, megis llefaru ac ysgrifennu creadigol. 

Ond mae hefyd yn cynnwys rhai sydd yn anghyffredin yng Nghymru, gan gynnwys cystadleuaeth goginio o'r enw'r 'Cogydd Cup'. 

Dywedodd Mrs Boyce fod yr ysgol yn falch o gynnal Eisteddfod flynyddol a'r cyfle mae'n ei roi i ddisgyblion i fod yn greadigol a chymryd rhan yn y celfyddydau. 

"Mae'n gyfle ar gyfer arweinyddiaeth, mae'n gyfle i wella hyder, mae 'na gymaint o gyfleoedd i ddisgyblion datblygu ei hunain fel unigolion," meddai. 

"Da ni'n gweld rhai disgyblion bydden ni byth yn disgwyl eu gweld ar y llwyfan ac mae disgyblion yn ymuno gyda chlybiau dawnsio a cherddoriaeth ar ôl yr Eisteddfod.

"Mae'n gyffrous iawn ac yn fwy neu lai'r digwyddiad mwyaf yn yr ysgol pobl blwyddyn."

Image
llefaru

Ychwanegodd Mrs Boyce fod effaith yr Eisteddfod ar y disgyblion yn anhygoel a dylai ysgolion eraill ystyried cyflwyno'r gystadleuaeth. 

"Dywedodd aelod o staff wrthai ei bod ar awyren ac yn eistedd ar bwys rhywun arall aeth i Fairfax, a'r peth cyntaf ofynnodd oedd: 'Ydy nhw'n dal i gynnal yr Eisteddfod?

"Mae'n amlwg yn beth sydd yn aros gyda pobl ar ôl iddyn nhw adael, a dydyn nhw byth yn ei anghofio.

"Gallwn ni werthu pedair gwaith y nifer o dicedi ar gyfer nosweithiau'r Eisteddfod oherwydd mae rhieni a chyn-ddisgyblion eisiau dod.

"Byddwn i'n annog ysgolion eraill i edrych ar esiampl yr Eisteddfod fel ffordd o ddathlu diwylliant, y celfyddydau a pherfformio yn yr ysgol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.