Anhrefn Trelái: Dyn yn osgoi carchar ar ôl cyfaddef ymosod ar ddau heddwas
Mae dyn wedi osgoi carchar ar ôl cyfaddef ymosod ar ddau heddwas yn ystod anrhefn Trelái yng Nghaerdydd yn 2023.
Fe wnaeth McKenzie Danks, 22 o Gaerau gyfaddef iddo wthio un heddwas a thaflu esgid at un arall.
Ni achosodd unrhyw anafiadau i'r heddweision.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd i'r ymosodiadau ddigwydd yn ystod cyfnodau cynnar yr anrhefn.
Roedd yr anhrefn ar strydoedd Trelái ar 22 Mai 2023 wedi digwydd yn dilyn marwolaethau dau fachgen, Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, mewn gwrthdrawiad.
Dangosodd delweddau CCTV fan Heddlu De Cymru yn dilyn y bechgyn ar feiciau trydan cyn iddyn nhw fod mewn gwrthdrawiad ar wahan yn ddiweddarach.
Wrth i densiynau gynyddu rhwng pobl leol a’r heddlu, cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu a chafodd ceir eu rhoi ar dân.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei bod yn derbyn "edifeirwch gwirioneddol" Danks am ei weithredoedd y noson honno.
Cafodd ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis.
