Ymddiheuro am gyhoeddi’r Gyllideb yn gynnar ‘ar ddamwain’
Mae'r swyddfa sydd yn mesur rhagolygon arian cyhoeddus wedi ymddiheuro ar ôl cyhoeddi manylion Cyllideb y Canghellor Rachel Reeves yn gynnar “ar ddamwain” ddydd Mercher.
Mae adroddiad y Swyddfa ar Gyfer Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi ei gyhoeddi i'r wasg cyn y cyhoeddiad swyddogol gan y Canghellor.
Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves bod cyhoeddi manylion y Gyllideb yn gynnar yn “gamgymeriad difrifol a hynod o siomedig” ar ran yr OBR.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch mai dyma oedd y Gyllideb "fwyaf anhrefnus ers cyn cof”, gan ofyn i'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer am esboniad am y “llanast llwyr”.
Mae'r adroddiad wedi rhannu manylion o’r Gyllideb gan gynnwys cynnydd mewn treth a chodi'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau.
Bydd trothwyon treth incwm yn cael eu rhewi yn y Gyllideb, gan arwain at 780,000 yn fwy o bobl yn talu treth incwm ar y gyfradd sylfaenol erbyn yn 2029/30, meddai'r adroddiad.
Bydd 920,000 yn fwy yn talu treth incwm ar y gyfradd uwch ac fe fydd 4,000 yn fwy yn talu treth incwm ar y gyfradd ychwanegol erbyn diwedd yr un cyfnod.
Mae'r OBR wedi cynyddu ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd eleni o 1% i 1.5% ond wedi gostwng ei rhagolygon ar gyfer y bedair blynedd ddilynol.
Bydd £4.7bn yn cael ei godi gan gynyddu treth Yswiriant Gwladol ar gyfraniadau pensiwn y tu hwnt i £2,000 y flwyddyn o fis Ebrill 2029.
