Llys yn clywed i hyfforddwr ceffylau ymosod ar gerddwr oedd ar ei dir

 Llys y Goron Caerdydd

Clywodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd fod hyfforddwr rasio ceffylau'r Grand National wedi defnyddio ffon hoci i ymosod ar ddyn 72 oed oedd yn mynd â chi am dro ar ei dir, ar ôl ei gamgymryd am droseddwr. 

Mae Evan Williams, 54 oed o ganolfan hyfforddi Evan Williams Racing yn Llancarfan, Bro Morgannwg, yn gwadu achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol i Martin Dandridge ar 4 Rhagfyr 2024.

Roedd Mr Dandridge o Swindon, gorllewin Lloegr yn aros mewn bwthyn gwyliau ger y safle ac wedi mynd â chi ei ferch am dro tua 21.30, gan wisgo lamp ar ei ben ac roedd wedi gosod golau ar ei gi, am ei bod yn dywyll.

Dywedodd yr erlynydd, William Bebb, fod teulu Evan Williams wedi gweld y goleuadau ac wedi tybio bod rhywun yn fflachio golau llachar er mwyn dod o hyd i greaduriaid fel cwningod a llwynogod. 

Aeth Evan Williams a’r joci, Conor Ring, allan mewn cerbyd 4x4 i’w herio, gan fynd heibio dau blismon oedd ar ddyletswydd yn yr ardal.

Honnodd yr erlyniad bod Evan Williams wedi rhedeg tuag at Mr Dandridge yn ymosodol, gan weiddi ac yna ei daro “yn ffyrnig” gyda ffon hoci. 

Clywodd y rheithgor iddo daro Mr Dandridge sawl gwaith, gan anafu ei fraich chwith. 

Dywedodd un plismon iddo weld Evan Williams yn taro’r dioddefwr. 

Dywedodd y plismon arall na welodd yr ymosodiad honedig ond iddo sylwi fod Mr Williams yn cario ffon hoci.  

Dywedodd yr erlyniad mai dim ond wedyn y sylweddolodd Evan Williams nad oedd y dyn yn droseddwr ond yn ymwelydd yn mynd â chi am dro. 

Wrth gael ei holi yn ddiweddarach, gwadodd Evan Williams iddo ymosod ar Mr Dandridge, a gwadodd hefyd fod ganddo ffon hoci. 

Dywedodd ei fod yn credu i Mr Dandridge syrthio i ddraen wrth i’r ci dynnu ar y llinyn.

Mae’r achos, sy’n debygol o bara am bedwar diwrnod, yn parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.