Dyn yn pledio’n euog i anafu pobl yn ystod gorymdaith yn Lerpwl
Mae dyn wedi pledio’n euog ar ail ddiwrnod ei achos yn Llys y Goron Lerpwl i anafu pobl yn ystod gorymdaith yn Lerpwl.
Roedd Paul Doyle, 54, wedi gyrru i mewn i gefnogwyr pêl-droed yng ngorymdaith buddugoliaeth Clwb Pêl-droed Lerpwl ar Fai 26.
Anafwyd 134 o bobl, gan gynnwys plant mor ifanc â chwe mis oed.
Roedd rheithgor wedi eu dewis ddydd Mawrth ond y diwrnod canlynol, pan oedd achos yr erlyniad ar fin dechrau, gofynnwyd i Paul Doyle ail-gyflwyno ei bledion i'r cyhuddiadau.
Cyfaddefodd i yrru'n beryglus, affrae, 17 cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol (GBH) yn fwriadol, naw cyhuddiad o achosi GBH yn farwiadol, a thri chyhuddiad o anafu yn fwriadol.
Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud â 29 o ddioddefwyr, rhwng chwe mis a 77 oed.
Y dioddefwr honedig ieuengaf oedd y baban Teddy Eveson, y dywedodd ei rieni wrth y cyfryngau yn ddiweddarach iddo gael ei daflu tua 15 troedfedd i lawr y ffordd yn ei bram pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Ni ellir enwi pump o blant eraill, y honnir bod Paul Doyle naill ai wedi'u hanafu neu wedi ceisio eu hanafu, am resymau cyfreithiol.
Dywedodd yr Ustus Andrew Menary KC, wrth Mr Doyle ei bod yn “anochel” y byddai’n wynebu dedfryd "hir" o garchar wedi iddo bledio yn euog.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 15 Rhagfyr yn yr un llys.
Wrth ymateb i'r newid ple dywedodd Sarah Hammond, prif erlynydd y goron ar gyfer CPS Merswy-Swydd Gaer: “Mae euogfarnau heddiw yn dod â rhywfaint o gyfiawnder wedi’r niwed a achoswyd yn ystod yr hyn a ddylai fod wedi bod yn ddiwrnod o ddathlu i ddinas Lerpwl.
“Mae Paul Doyle wedi cael ei ddal i gyfri’ am ei weithredoedd bwriadol a beryglodd fywydau ac a ddaeth ag anhrefn i ganol cymuned.
“Drwy bledio’n euog, mae Doyle o’r diwedd wedi derbyn ei fod wedi gyrru’n fwriadol i mewn i dyrfaoedd o bobl ddiniwed yn ystod gorymdaith fuddugoliaeth Clwb Pêl-droed Lerpwl.”

