Rygbi: Aaron Wainwight yn dychwelyd ar gyfer her y Springboks
Mae’r wythwr Aaron Wainwright wedi dychwelyd i dîm Cymru wrth i Steve Tandy wneud 14 newid i’w garfan ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica'r penwythnos hwn.
Gyda gêm olaf Cymru yng Nghyfres Hydref eleni yn cael ei chwarae y tu allan i’r ffenestr gemau rhyngwladol, mae 13 o chwaraewyr sydd yn chwarae i glybiau y tu allan i Gymru wedi gadael y garfan ar gyfer her y Springboks ddydd Sadwrn.
Ymhlith y 13 fydd ddim yn chwarae y penwythnos hwn mae Louis Rees-Zammitt, Tomos Williams, Dafydd Jenkins, Adam Beard a Rhys Carre, oedd yn rhan o’r tîm ar gyfer y golled 26-52 yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf.
O ganlyniad, mae Tandy wedi gwneud wyth newid i’r 15 fydd yn cychwyn yn erbyn pencampwyr y byd, gyda Wainwright yn dychwelyd i’r rheng ôl.
Ar ôl cael ei alw i’r garfan ddydd Llun, mae Ellis Mee wedi’i enwi ar yr asgell, yn ogystal â Rio Dyer. Fe fydd Blair Murray yn parhau yn safle’r cefnwr.
Mae Joe Roberts yn ymuno â Joe Hawkins yng nghanol cae, tra bod Kieran Hardy yn cychwyn fel mewnwr, gyda Dan Edwards yn parhau yn y crys rhif 10.
Yn y rheng ôl, fe fydd Alex Mann yn symud i’r safle rhif 7 a Taine Plumtree i’r ochr dywyll, naill ochr i Wainwright.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1993660023734706262?s=20
Bydd Ben Cartrer a Rhys Davies yn cychwyn yn yr ail reng, tra bod Gareth Thomas yn cychwyn fel prop pen rhydd, gan ymuno â’r capten Dewi Lake a’r prop pen tynn Keiron Assiratti.
Ymhlith yr eilyddion, bydd y prop pen rhydd Danny Southworth yn gobeithio gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, gyda blaenwyr y Dreigiau, Chris Coleman a Brodie Coghlan hefyd ar y fainc.
James Ratti a Morgan Morse yw’r ddau flaenwr arall ymhlith yr eilyddion, gyda Reuben Morgan-Williams, Callum Sheedy a Ben Thomas wedi’u dewis fel yr eilyddion o safbwynt yr olwyr.
Dywedodd Steve Tandy: “Yr hyn ry’n ni eisiau ei weld gan y bechgyn [ddydd Sadwrn] yw’r un math o ymdrech a pherfformiad gawson ni’r penwythnos diwethaf.
“Fe ddangoson ni lawer o fenter a phwrpas wrth ymosod ac roedd ein hymdrechion wrth amddiffyn i’w canmol hefyd. Ry’n ni eisiau cyffroi’r cefnogwyr eto’r wythnos hon.”
Fe fydd y gêm rhwng Cymru a De Affrica yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C ddydd Sadwrn am 15.10.
Llun: Asiantaeth Huw Evans
