Y Gyllideb: Beth sy'n poeni rhai o drigolion Bangor?

Newyddion S4C

Y Gyllideb: Beth sy'n poeni rhai o drigolion Bangor?

Wrth i’r Canghellor gyhoeddi ei chyllideb ddydd Mercher mae Newyddion S4C wedi treulio cyfnod yn ardal Maesgeirchen ym Mangor i glywed am yr hyn sy’n poeni pobl yno a’r hyn mae nhw am weld gan y gwleidyddion.

“Gas, ‘letrig a phisiau bwyd” – wrth holi trigolion Maesgeirchen am yr hyn sy’n eu poeni nhw, mae na batrwm cyffredin yn dod i’r fei.

Mae oddeutu 2,500 o bobl yn byw ar y stâd sydd ar gyrion Bangor a nifer yn dweud mai y cynnydd mewn prisiau ar y pethau hanfodol sy’n cael yr effaith mwyaf ar fywydau.

Yn aros i ddal bws mae Rhydwen Ellis yn dweud mai chwyddiant a phrisiau bwyd sy’n rhaid eu blaenoriaethu gan y llywodraeth yn y gyllideb.

“ Dwi’n prynu torth- £1.40 yr wythnos gyntaf... mai rŵan yn £1.70... lle da ni fod i gael y pres extra?" meddai.

“’Da ni ddim yn cael o gan neb nadan. Mae rhaid chi fyw does ac mae’n rhaid ichi fwyta felly ‘da chi gorfod talu”.

Image
Rhydwen Ellis
Rhydwen Ellis

Ar y ffordd i’r gwaith mae Rachel Clutton sydd â thri o blant a’i gŵr ddim yn gweithio oherwydd salwch.

“Mae’n long days.. dwi’n dod adref [...] ma’n cweit anodd a da ni jest yn get by, budgetio bob wythnos a get by fela," meddai.

“Da ni’n mynd drwy loads efo gas, loads efo electric a jest dim llawer yn yr wythnos efo pres i roi yno fo”.

Image
Rachel Clutton
Rachel Clutton

Mae cartrefi yng Nghymru o blith y mwyaf aneffeithiol drwy Ewrop o ran effeithlonrwydd ynni a’r tywydd gwlyb a gwyntog yn y gogledd orllewin yn dwysáu hynny.

Mae pris ynni fesul uned yng ngogledd Cymru y drytaf drwy Brydain.

Yn ôl y fenter leol, Maes Ni, mae hynny ynghyd â chwyddiant yn gwthio mwy o bobl i dlodi ac i ofyn am gymorth.

Yn ôl Fflur Harman mae gan ardal Maesgeirchen galon fawr ac mae yna ysbryd cymunedol braf yma.

“Mae pobl yn meddwl bod y lle yn waeth nag ydio, mae Maesgeirchen efo image ac mae pobl efo stereotypes yma ond pan ti’n dod yma mae pobl yn ffantastig," meddai.

“Os sa chdi ddim efo siwgr a sa ti mynd drws nesaf, ‘sa pobl yn rhoi o iti.

“Ond mae’r ardal yn ddifreintiedig, mae lot o bobl mewn tlodi, mae na dlodi plant a food insequrity.

“Mae lot o bobl yn gweithio shifftiau a gweithio pres bob awr yn lle salary ac mae pobl eisiau mynd eu blaenau ond lot o’r amser di pobl ddim eisiau rhoi chance i bobl."

Image
Rio
Rio

Dweud yn debyg mae Rio, sy’n 17 oed ac yn gwirfoddoli yn y Banc Bwyd am 10 awr yr wythnos.

“Mae na loads o dlodi o gwmpas fama a pobl rili’n stryglo," meddai.

“Ti’n gallu dweud oherwydd mae pobl yn dod mewn drwy’r wythnos a ti’n gweld yr un un wynebau ond hefyd wynebau newydd.

“Mae na lot o bobl rhy prideful i ofyn am help."

Ag yntau’n 17 oed mae’n dweud bod angen blaenoriaeth prisiau tai gan bod nhw tu hwnt i gyrraedd nifer o bobl.

Costau byw

Mae’r Canghellor wedi dweud y bydd yn codi trethi yn hytrach na thorri gwasanaethau wrth gyhoeddi ei Chyllideb ddydd Mercher.

Fe wnaeth Rachel Reeves gadarnhau y bydd trothwyon treth incwm yn cael eu rhewi tan fis Ebrill 2031, gan olygu y bydd mwy o bobl yn talu rhagor o dreth.

Fe fydd yna dreth newydd ar gartrefi sy’n werth £2 filiwn, tâl newydd ar ddefnydd cerbydau trydan fesul milltir, a chynnydd mewn Yswiriant Gwladol ar gyfraniadau pensiwn uwchlaw £2,000.

Bydd newidiadau i drethi ar gamblo drwy ddyfeisiadau yn cynyddu o 15% i 25%, gan godi £1.1bn ychwanegol, a bydd ‘treth plasty’ ar dai dros £2m yn codi £400m.

Y nod yw bod y trethi newydd godi cyfanswm o £26bn yn ychwanegol erbyn 2029-30.

Ond ar draws Cymru mi glywch chi straeon a phryderon tebyg mewn sawl cymunedau wrth i nifer weld yr argyfwng costau byw yn brathu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.