Y Gyllideb: Rachel Reeves yn cyhoeddi y bydd trethi’n codi

Rachel Reeves

Mae’r Canghellor wedi dweud y bydd yn codi trethi yn hytrach na thorri gwasanaethau wrth gyhoeddi ei Chyllideb ddydd Mercher.

Fe wnaeth Rachel Reeves gadarnhau y bydd trothwyon treth incwm yn cael eu rhewi tan fis Ebrill 2031, gan olygu y bydd mwy o bobl yn talu rhagor o dreth.

Fe fydd yna dreth newydd ar gartrefi sy’n werth £2 filiwn, tâl newydd ar ddefnydd cerbydau trydan fesul milltir, a chynnydd mewn Yswiriant Gwladol ar gyfraniadau pensiwn uwchlaw £2,000.

Bydd newidiadau i drethi ar gamblo drwy ddyfeisiadau yn cynyddu o 15% i 25%, gan godi £1.1bn ychwanegol, a bydd ‘treth plasty’ ar dai dros £2m yn codi £400m.

Y nod yw bod y trethi newydd godi cyfanswm o £26bn yn ychwanegol erbyn 2029-30.

"Fe ddywedais i na fydden ni'n dychwelyd i ddyddiau llymder ariannol (austerity) a rwy'n golygu hynny," meddai Rachel Reeves.

Ond yn ôl y swyddfa sydd yn mesur rhagolygon arian cyhoeddus, yr OBR, bydd hyn yn gwthio terthi i fyny i’w huchaf erioed sef 38% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) y DU erbyn 2030.

Arian i Gymru

Dywedodd Rachel Reeves y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £505m yn ychwanegol rhwng y blynyddoedd ariannol 2026/27 a 2028/29.

Cyfeiriodd hefyd at yr Adweithydd Modiwlaidd Bach a fydd yn cael ei adeiladu ar Ynys Môn, a'r cynlluniau ar gyfer Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial yng ngogledd Cymru, a fydd gyda'i gilydd yn creu 6,500 o swyddi meddai Llywodraeth y DU.

Cadarnhaodd Rachel Reeves hefyd y bydd y terfyn dau blentyn ar hawlio budd-daliadau yn cael ei ddiddymu.

“Dydyn ni ar ochr yma’r Tŷ ddim yn credu mai’r ateb i system fudd-daliadau sydd wedi torri yw cosbi’r plant mwyaf bregus,” meddai.

Bydd 69,000 o blant yng Nghymru yn elwa o'r newid hwn, meddai Swyddfa Cymru.

Dywedodd ei bod yn “gofyn i bawb wneud cyfraniad” drwy rewi trothwyon treth, gan ddweud ei bod hi’n cydnabod mai “penderfyniad a fydd yn effeithio ar bobl sy’n gweithio” ydyw.

Bydd 780,000 yn fwy o bobl yn talu treth incwm ar y gyfradd sylfaenol erbyn 2029/30.

Bydd 920,000 yn fwy yn talu treth incwm ar y gyfradd uwch ac fe fydd 4,000 yn fwy yn talu treth incwm ar y gyfradd ychwanegol erbyn diwedd yr un cyfnod.

Bydd £4.7bn hefyd yn cael ei godi drwy gynyddu treth Yswiriant Gwladol ar gyfraniadau pensiwn y tu hwnt i £2,000 y flwyddyn o fis Ebrill 2029.

Ymateb

Dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, fod Rachel Reeves wedi colli hygrededd ac ymddiriedaeth y cyhoedd.

“Gallai fod wedi dewis heddiw i ostwng gwariant lles a chael mwy o bobl i mewn i waith,” meddai.

“Yn lle hynny, mae hi wedi dewis codi treth ar ôl treth, ar ôl treth.”

Roedd y Gyllideb yn destun “cywilydd llwyr” i Rachel Reeves a “phe bai hi am wneud y peth cywir fe fyddai’n ymddiswyddo,” ychwanegodd Kemi Badenoch.

Wrth ymateb i'r Gyllideb dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, y bydd yn "helpu pobl ledled Cymru". 

"Bydd yn golygu mwy o arian ym mhocedi’r bobl sydd ei angen fwyaf, cymorth ar gyfer biliau ynni, cynnydd yn yr isafswm cyflog a newyddion da i bensiynwyr," meddai.

"Rwy'n falch bod y Canghellor wedi gwrando ar ein galwad i ddileu'r cap dau blentyn ar gyfer y budd-dal plant, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â melltith tlodi plant.

"Fe wnaethon ni alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barhau i'n cefnogi gyda mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, sydd dan bwysau difrifol, ac maen nhw wedi gwrando drwy roi £500 miliwn yn ychwanegol inni. Mae hyn yn adeiladu ar y £5 biliwn o gyllid ychwanegol sydd eisoes wedi'i gadarnhau."

Dywedodd Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru eu bod nhw'n croesawu y penderfyniad i ddileu’r terfyn budd-dal dau blentyn.

“Mae pob plentyn yn haeddu plentyndod heb brofi tlodi. Mae cymaint o blant wedi cael eu cosbi gan y polisi niweidiol hwn, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain," meddai.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn arwydd clir bod bywydau pob plentyn yn cael eu gwerthfawrogi waeth beth fo amgylchiadau eu geni a bod hwn yn foment o obaith i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cadw deupen llinyn ynghyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.