Y Tywysog Andrew yn colli ei deitlau milwrol ac anrhydeddau brenhinol
Mae'r Tywysog Andrew wedi colli ei deitlau milwrol ac anrhydeddau brenhinol, wrth iddo wynebu achos llys sifil yn yr UDA.
Daeth cadarnhad gan Balas Buckingham brynhawn dydd Iau fod ei deitlau wedi eu dychwelyd i'r Frenhines.
Daw hyn wedi i farnwr yn yr UDA wrthod ymgais gan gyfreithwyr y Dug i rwystro achos llys yn ei erbyn rhag mynd ymhellach.
Mae Virginia Giuffre wedi cyhuddo'r Dug o ymosod arni'n rhywiol ac mae disgwyl y bydd achos llys sifil nawr yn mynd yn ei flaen.
Mae'r Tywysog wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Bydd y Tywysog Andrew yn amddiffyn yr achos fel "dinesydd preifat", yn ôl llefarydd ar ran Palas Buckingham.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y palas: "Gyda chymeradwyaeth a chytundeb y Frenhines o flaen llaw, mae cysylltiadau milwrol a nawddogaethau Brenhinol wedi eu dychwelyd i'r Frenhines.
"Bydd Dug Efrog yn parhau i beidio ag ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau cyhoeddus ac mae'n amddiffyn yr achos hwn fel dinesydd preifat."
A statement from Buckingham Palace regarding The Duke of York: pic.twitter.com/OCeSqzCP38
— The Royal Family (@RoyalFamily) January 13, 2022
Llun: Paul Kagame