'Nam tebygol' ar freciau trên yn gyfrifol am ddamwain yn Sir Gâr
Fe ddaeth trên oddi ar y cledrau yn Sir Gâr wedi i olwynion un wagen "stopio troi", yn ôl adroddiad.
Dywed yr adroddiad ymchwiliad gan RAIB fod set o olwynion wedi'u cloi, a bod hyn yn debygol o fod o ganlyniad i nam ar system frecio’r drydedd wagen.
Daeth y gwasanaeth 21:52 o Robeston (Aberdaugleddau) i Theale oddi ar y cledrau am tua 23:04 ar 26 Awst 2020 ger Llangennech.
Roedd y trên yn tynnu 25 wagenni tanc ac fe arweiniodd y difrod i'r wagenni at ollwng tanwydd a thân sylweddol.
Cafodd y digwyddiad ei adrodd i'r signalwr gan y gyrrwr oedd heb ei anafu.
Daeth astudiaeth ddiweddarach o'r safle i'r casgliad fod 10 o'r wagenni wedi dod oddi ar y cledrau.
Daeth i'r amlwg hefyd bod tua 446,000 litr o danwydd wedi dianc.
Fe arllwysodd y tanwydd gan achosi "difrod sylweddol" i'r amgylchedd yn yr ardal, medd yr adroddiad.
Mae'r adroddiad yn cynnig naw argymhelliad yn sgil y digwyddiad, ac mae'r rhain yn cynnwys awgrym i gynllunwyr rhai o rannau'r system frecio i "gynnal adolygiad o'u dyluniad".
Mae argymhellion pellach i wella rheolaeth o'r gwaith o gynnal a chadw wagenni ar reilffyrdd Prydain ac adolygu'r systemau sydd mewn lle i hysbysu swyddogion am namau a fedrai arwain at drên yn dod oddi ar y cledrau.