
Porthladdoedd yn parhau i wynebu 'problemau mawr' oherwydd Brexit

Mae perchnogion dau o borthladdoedd Cymru wedi dweud bod angen gwneud mwy o waith i ddatrys “problemau mawr” o ganlyniad i Brexit.
Ym mis Ionawr llynedd, fe wnaeth y DU adael y Farchnad Sengl ac Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r nifer o nwyddau sydd yn cael eu cludo trwy Borthladd Caergybi yn “tua thraean” yn llai ers gadael yr Undeb, meddai cwmni Stena Line wrth raglen Y Byd yn ei Le.
Wrth siarad ar ran y cwmni fferi, dywedodd y Swyddog Cyfathrebu, Simon Palmer, fod nifer o ffactorau yng nghlwm ag effaith negyddol ar borthladdoedd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae cyfuniad o Brexit a’r pandemig wedi effeithio ar lif cludo nwyddau ond mae’n amlwg nad yw Brexit yn fater dros nos, mae’n mynd i fod yn rhywbeth y bydd yn rhaid ei ddatrys dros gyfnod wrth i ni weld y trafodaethau’n parhau.”
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae'r nifer o nwyddau sy'n cael eu cludo rhwng Dulyn a Chaergybi wedi gostwng bron i 20% o gymharu â ffigyrau 2020.
Bu hefyd gostyngiad o 30% rhwng Rosslare a Doc Penfro ac Abergwaun yn yr un cyfnod.

Dywedodd Mr Palmer gall poblogrwydd ffyrdd uniongyrchol fod yn rheswm posib am y ffigyrau.
“Ar hyn o bryd, oherwydd bod gennych chi’r mynediad anghyfyngedig o Ogledd Iwerddon, rydych chi’n dal i weld lefelau cludo nwyddau a fyddai wedi dod trwy Gymru yn mynd trwy Belfast neu’n uniongyrchol i Ffrainc.”
'Ychydig flynyddoedd i asesu'r effaith lawn'
Mae Dafydd Thomas yn rhedeg cwmni poteli dŵr ym Mhentraeth, Ynys Môn.
Dywedodd nad yw wedi gweld unrhyw effaith negyddol o gwbl ar y busnes ers gadael yr UE.
“Fel dyn busnes fy hun, rwy’n dal i fewnforio ac allforio i Ewrop a dydw i ddim wedi gweld unrhyw effeithiau negyddol o adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn wir, ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym wedi cael mwy o gyfleoedd i’r ynys.”

Mae Mr Thomas hefyd yn honni ei fod wedi cael mwy o gyfleoedd i allforio cynnyrch ar draws y byd ar ôl Brexit nag y gwnaeth cyn gadael yr UE.
“Dw i wedi llwyddo i allforio mwy i Awstralia ac i America…dwi’n teimlo bod gweddill y byd yn edrych ar Brydain nawr a dwi’n gobeithio y gallwn gymryd y cyfleoedd sy’n dod i ni.”
Ond i Alun Roberts, sy’n rhedeg sefydliad sy’n cefnogi busnesau ar Ynys Môn, mae’n dweud ei fod wedi gweld effeithiau negyddol Brexit ar fusnesau lleol.
“Y gadwyn gyflenwi yw’r prif fater sydd wedi effeithio ar lawer o fusnesau o ran mewnforio nwyddau. Mae’n cymryd llawer mwy o amser gyda’r gwaith papur mewn porthladdoedd a meysydd awyr.”
Ychwanegodd Mr Roberts, y bydd rhaid aros “ychydig flynyddoedd eto i asesu’r effaith lawn" o Brexit ar borthladdoedd Cymru.

Er bod llifoedd cludo nwyddau wedi gwella'n raddol dros y flwyddyn, dywed Stena Line fod yna faterion o hyd y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn i'r sector cludo nwyddau ddychwelyd i lefelau dosbarthu arferol ar ôl Brexit.
Dywedodd Simon Palmer nad oedd y cyfnod pontio wedi bod yn llyfn.
“Rydyn ni wedi bod yn cynnal arolwg o’n cwsmeriaid cludo nwyddau ac maen nhw wedi siarad am trawma llynedd. Roedd yn gyfnod anodd iawn iddynt," meddai.
"Nid ydym yno eto, mae'n mynd i gymryd amser i'r holl faterion gael eu datrys, mae rhai materion mawr yn dal i gael sylw, ond rydym yn eithaf cadarnhaol.
"Ni sy’n berchen ar y porthladd, rydym 100% y tu ôl iddo ac fel y gwelwch heddiw, mae’n dal yn brysur iawn.”
Gallwch gwylio Y Byd yn ei Le ar wefan S4C Clic.