Newyddion S4C

Ymchwilio i farwolaeth dyn wedi ymosodiad gan gŵn yn Llanbedr Pont Steffan

12/01/2022
Llun o gar heddlu.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod swyddogion yn ymchwilio i farwolaeth dyn 68 oedmewn eiddo yn Llanbedr Pont Steffan, yn dilyn adroddiadau fod tri chi wedi ymosod arno.

Mae'r dyn wedi ei enwi fel John Williams Jones mewn cwest i'w farwolaeth. 

Cafodd swyddogion eu galw i'r eiddo ychydig wedi 17:00 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau fod y cŵn oedd yn byw yn y tŷ wedi ymosod ar y dyn.

Bu farw Mr Jones yn y fan a'r lle. 

Cafodd menyw ei harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd allan o reolaeth mewn modd peryglus.

Mae hi wedi ei rhyddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.

Nid oedd y tri chi yn disgyn o dan ddeddfwriaeth Deddf Cŵn Peryglus 1991, ac fe gafodd yr anifeiliaid eu symud o'r eiddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.