Covid-19: Cofnodi 14 marwolaeth yn rhagor a 2,886 achos newydd
Mae 2,886 o achosion pellach o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y 24 awr diwethaf, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 14 marwolaeth yn rhagor eu cofnodi yn ystod yr un cyfnod.
Mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi gostwng i 1,595.6.
Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot (2,020.7), Blaenau Gwent (1,912.3) a Caerffili (1,800.4).
Roedd y cyfraddau isaf yn Sir Fynwy (981.1), Ceredigion (1,005.6) a Gwynedd (1,190.6).
Mae 732,548 achos positif a 6,668 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn.
Hyd yma mae 2,498,417 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,330,364 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,749,752 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu.
Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.