Rygbi Merched: Chwaraewyr cyntaf yn derbyn cytundebau proffesiynol
Mae'r cytundebau proffesiynol cyntaf wedi eu rhoi i ferched Cymru gan Undeb Rygbi Cymru.
Mae 12 o chwaraewyr wedi derbyn y cytundebau llawn-amser - dau yn fwy na gafodd eu cyhoeddi yn wreiddiol.
Fe fydd y cytundebau sydd wedi eu cadarnhau ddydd Mercher yn parhau am y 12 mis nesaf.
Yn eu plith mae capten Cymru Siwan Lillicrap.
Yn ogystal â Lillicrap, mae'r blaenwyr Alisha Butchers, Natalia John, Carys Phillips, Gwenllian Prys a Donna Rose wedi derbyn y cytundebau.
Mae'r cefnwyr Kiera Bevan, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Ffion Lewis, Lisa Neumann ac Elinor Snowsill hefyd yn dechrau ar gytundebau proffesiynol.
Dywedodd Prif Weithredwr y Grŵp Steve Phillips: "Mae hwn yn ddiwrnod o falchder inni fel corff llywodraethu. Rydw i'n falch iawn i fod yn gallu dweud fod gennym ein chwaraewyr benywaidd llawn-amser cyntaf a fydd yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol."
Dywedodd prif hyfforddwr Merched Ioan Cunningham: “Mae hi wedi bod yn broses anodd ond un y gwnaethom fwynhau. Chwarae teg i'r holl chwaraewyr sydd wedi rhoi pennau tost inni wrth ddewis. Rydym i gyd yn gyffrous iawn i ddechrau ar y cynllun."
Llun: Asiantaeth Huw Evans