Djokovic yn cyfaddef torri cyfyngiadau hunan ynysu ar ôl profi’n bositif am Covid

Mae’r chwaraewr tenis Novak Djokovic wedi cyfaddef iddo dorri rheolau hunan ynysu tra roedd ganddo Covid.
Dywedodd Djokovic hefyd fod ei asiant wedi “gwneud camsyniad” ar ei ffurflen mynediad i Awstralia wrth roi manylion cyn iddo gyrraedd y wlad.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Djokovic ei fod bellach wedi rhoi gwybodaeth ychwanegol er mwyn clirio’r mater.
Mae e hefyd wedi cyfaddef iddo wneud cyfweliad gyda newyddiadurwr o gylchgrawn Ffrengig ym mis Rhagfyr er ei fod wedi profi’n bositif gyda Covid y diwrnod cynt.
Darllenwch y stori yn llawn yma.