Newyddion S4C

Teulu milwr a drywanwyd wedi apelio am gymorth tystion

Newyddion S4C 11/01/2022

Teulu milwr a drywanwyd wedi apelio am gymorth tystion

Mae teulu milwr ifanc o Ynys Môn a gafodd ei drywanu dros y penwythnos yn dweud ei bod hi'n amhosib disgrifio eu poen.

"Mae o bron di colli'i fywyd," meddai tad Chris Griffith, 17.

"Does na'm excuse i neb gario cyllell."

Mae'r llanc o Landrygarn ger Llannerch-y-medd wedi bod yn y fyddin ers ychydig dros flwyddyn.

Roedd angen pedair awr o lawdriniaeth arno, ac fe gollodd chwarter ei waed ar ôl cael ei drywanu yn ei ochr yng Nghaergybi ar 7 Ionawr.

Dywed ei deulu ei fod yn dal mewn poen difrifol ac yn "brwydro am ei fywyd" yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Maen nhw'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad.

Does gan yr unigolyn wnaeth drywanu Chris "ddim syniad" o'r boen maen nhw wedi ei achosi, medd Owen Griffith.

Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd ei dad, Owen Griffith: "Fedrai'm a deutha' chi faint o boen ma' hyn 'di bod.

"'Da ni gyd fel teulu 'di cael job ofnadwy... da ni methu cysgu'n nos na'm byd."

Mae'r teulu wedi canmol ffrind i Chris a ddaeth o hyd iddo yn fuan ar ôl yr ymosodiad a'i gludo i'r ysbyty.

Apelio am dystion

Ffoniodd Oliver Williams 999 ar y ffordd i wneud yn siŵr y gallai Chris gael ei drin ar unwaith ar ôl cyrraedd.

"A'th o cyn fast a galla fo o Gaergybi i Fangor," meddai Mr Griffith.

"Heb bod o 'di gneud hynny, bysa fo [Chris] 'di gwaedu i'w farwolaeth."

Mae Owen Griffith wedi apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld yr ymosodiad yn ardal Tan yr Efail yng Nghaergybi i gysylltu â'r heddlu.

"Os oes 'na rywun yn gwybod rhywbeth - a dwi'n siŵr bod 'na bobl sydd yn gwybod - mi fedran nhw fynd at yr heddlu a deud be' ma' nhw'n ei wybod a dos na'm rhaid i hynna ddod i'r golwg.

"Galla'i ddim dweud pa mor ddiolchgar fysa ni i bobl ddŵad ymlaen."

Fe allai hyn arbed rhieni eraill rhag mynd trwy'r un profiad a nhw, ychwanegodd.

Mae'r diwrnodau diwethaf wedi bod yn "erchyll," medd Owen a Pamela Griffith

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio am dystion ar ôl ymosodiad ar ddyn yn ardal Tan-yr-Efail yng Nghaergybi am tua 20:30 nos Wener, 7 Ionawr.

"Mae dyn 18 oed, oedd yn hysbys i'r dioddefwr, wedi'i arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth er mwyn i ymholiadau pellach gael eu cwblhau.

"Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd.

"Fodd bynnag, os oeddech chi'n dyst i'r ymosodiad, wedi clywed unrhyw ffrae yn yr ardal, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth arall am y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.