Cofio trychineb awyren yn Eryri 70 mlynedd yn ôl
Ddydd Llun bu dau ddyn o Wynedd yn talu teyrnged i 23 o deithwyr fu farw wedi i'w awyren daro yn erbyn mynydd ger yr Wyddfa, a hynny 70 mlynedd yn ôl i’r diwrnod.
Ond cyn dechrau ar y daith i fyny’r mynydd, fe wnaeth Dafydd Ellis a Hywyn Roberts ymweld â mynwent eglwys Llanbeblig yng Nghaernarfon er mwyn glanhau carreg fedd y rhai a gollwyd.
Dywedodd Mr Ellis: “Fe aethon ni ymweld â'r fynwent, a safle'r ddamwain drasig, yn uchel i fyny yng Nghwm Edno gyferbyn â'r Wyddfa.”
Yna fe ddringodd y ddau i fyny at safle’r ddamwain i gofio am y 23 dioddefwr drwy osod blodau, baner y trilliw Gwyddelig - a baner y Ddraig Goch wrth ymyl carreg goffa gerllaw.
Mae gan Dafydd Ellis gof plentyn o’r digwyddiad erchyll ar lethrau Eryri:
“Yr ieuengaf i farw oedd Melody Laker oedd ddim ond yn bump mlwydd oed. Ei doli oedd yr unig eitem a arhosodd yn gyfan ar safle'r ddamwain.
“Dywedodd fy ewythr – a oedd yn gweithio yng Ngorsaf Drydan Hydro Cwm Dyli ar noson y ddamwain eu bod wedi clywed peiriannau’r awyren ac yna distawrwydd.
“Efallai mai ef oedd y person olaf i glywed yr awyren a ffoniodd orsaf yr heddlu ym Mhorthmadog i adrodd yr hyn a glywodd.”
Taith olaf 'St. Kevin'
Ar 10 Ionawr, 1952 am 17:25 hedfanodd yr awyren 'St.Kevin' Aer Lingus DC-3, o faes awyr Northolt ger Llundain.
Roedd Northolt, sydd bellach yn ganolfan yr Awyrlu, yn cael ei ddefnyddio gan awyrennau masnachol tra roedd Heathrow yn cael ei adeiladu.
Roedd y tywydd yn wael, ac yn gwaethygu wrth i'r awyren nesáu at arfordir Cymru.
Roedd y glaw yn ddi-stop a’r gwyntoedd yn gryf a stormus.
Yn fuan ar ôl 19:00 adroddodd y peilot, Capten James Keohane, i orsaf Radio Nevin i'r de o Ynys Môn, ei fod wedi cyrraedd Môr Iwerddon a gofyn am ganiatâd i ddisgyn o 6,500 troedfedd i 4,500.
Hwn oedd y neges olaf erioed o'r St.Kevin.
Ond, ymhell o fod dros fôr Iwerddon, yn ddiarwybod roedd yr awyren yn anelu bron yn uniongyrchol tuag at gopa’r Wyddfa sy’n 3,650 troedfedd o uchder.
Ychydig funudau'n ddiweddarach fe chwalodd yr awyren ar ochrau Cwm Edno ychydig filltiroedd o gopa’r Wyddfa.
Lladdwyd yr 20 teithiwr arni a'r tri aelod o’r criw.
Daeth y newyddion cyntaf am y drychineb gyda galwad ffôn at heddlu Caernarfon gan ddau berson lleol a ddywedodd eu bod wedi gweld a chlywed damwain awyren.
Adroddodd yr achubwyr am olygfa o ddinistr llwyr pan gyrhaeddon nhw safle'r ddamwain ar ôl iddo wawrio y bore canlynol wedi iddyn nhw orfod dringo am bron i awr i gyrraedd yno.
Roedd rhannau o'r awyren a llawer o'r cyrff wedi'u sugno i bridd corsiog y dyffryn uchel.
Ymhlith y dioddefwyr oedd merch 16 oed o'r Almaen, Lily Wenman, ar ei ffordd i Ddulyn i fyw gyda'i mam-gu, Evelyn Belton, cyfneither cyn Arglwydd Faer Dulyn a'r stiwardes awyr Deirdre Sutton, 23 oed, oedd ond wedi bod yn gweithio i Aer Lingus am ddwy flynedd.
Daeth ymchwilwyr damweiniau i'r casgliad bod yr awyren wedi dod ar draws gwyntoedd nerthol ar ochrau’r Wyddfa a’i gorfododd yn is lle collodd y peilotiaid reolaeth.
Mae 12 o ddioddefwyr y ddamwain, gan gynnwys Capten Keohane, Melody Laker a'i mam Dorothy, wedi'u claddu mewn bedd cymunedol ym mynwent y plwyf yn Llanbeblig, Caernarfon.
Gosodwyd cofeb garreg yn y ddaear yn agos at safle'r ddamwain yng Nghwm Edno.