Cyn Brif Swyddog Cynnwys S4C yn ceisio hawlio dros £550,000 gan y darlledwr

Newyddion S4C
Llinos Griffin-Williams

Mae cyn Brif Swyddog Cynnwys S4C yn ceisio hawlio dros £550,000 gan y darlledwr mewn achos cyfreithiol.

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo yn ddirybudd o'i swydd, oedd yn talu cyflog o £130,000, yn 2023.

Ar y pryd, honnwyd iddi fod yn feddw ac ymddwyn mewn ffordd fygythiol tra yn mynychu Cwpan Rygbi'r Byd yn Nantes yn rhinwedd ei swydd.

Mewn dogfennau sydd wedi cael eu rhyddhau gan yr Uchel Lys i raglen Newyddion S4C, mae Ms Griffin-Williams yn gwadu unrhyw gamymddwyn.

Mae'n dweud bod ei diswyddo fel Prif Swyddog Cynnwys S4C, a'r cyhoeddusrwydd ynghylch hynny wedi "dinistrio" ei gyrfa ym myd darlledu a'i bod wedi ei "gorfodi i ymgymryd â gwaith rhan-amser, hunangyflogedig."

Yn ôl dogfennau'r llys, mae'n hawlio £565,000 mewn colledion o ran enillion. 

Enw da

Mae hi hefyd yn ceisio hawlio symiau amhenodol am niwed i'w henw da, ei hiechyd a'i theimladau. Mae hefyd yn hawlio i gyn-gadeirydd S4C Rhodri Williams gamweithredu mewn swydd gyhoeddus.

Mewn dogfennau sydd wedi eu rhyddhau gan y llys, mae Ms Griffin-Williams yn honni iddi gael ei diswyddo ar unwaith gan Rhodri Williams, heb gyfle i drafod nac apelio'r penderfyniad hwnnw.

Image
Rhodri Williams
Cyn-gadeirydd S4C Rhodri Williams.

Mae Llinos Griffin-Williams hefyd yn honni mai "drwgdeimlad yn ei herbyn" oedd cymhelliad Rhodri Williams. 

Mae hefyd yn honni iddi gael ei diswyddo yn syth wedi iddi gyflwyno strategaeth S4C ar gyfer 2024/25 i "ryw 100 o bobl o'r sector cyfryngol Cymreig". 

Ei honiad yn y ddogfennaeth yw bod hynny wedi ei wneud "er mwyn achosi'r radd uchaf o sylw cyhoeddus a chymaint o ofid, embaras a chywilydd a phosibl."

Mae'r dogfennau hefyd yn amlinellu cynnwys ei llythyr diswyddo, oedd yn dweud ei bod "wedi cael ei gweld yn amlwg yn feddw i'r graddau i hynny niweidio ei hymddygiad" ac iddi ddefnyddio "iaith oedd yn bwlio ac yn gwbl amhroffesiynol mewn negeseuon testun". 

Roedd y llythyr hefyd yn honni iddi ddweud wrth gyn-fewnwr rygbi Cymru, Mike Phillips, oedd wedi bod yn gweithio fel sylwebydd i raglenni S4C yn nhwrnament Cwpan Rygbi'r Byd bod ei "Gymraeg yn s**t" ac "na fyddai unrhyw un yn gwybod pwy oedd e hebddi hi." Mae hi'n gwadu'r honiadau rheiny.

Mae Ms Griffin-Williams hefyd yn honni i Rhodri Williams ryddhau gwybodaeth i'r wasg - cyhuddiad mae Mr Williams yn ei wadu. 

Mae'n cyfeirio at sawl adroddiad gan Newyddion S4C a Nation.cymru yn ystod cyfnod cythryblus i'r darlledwr, pan arweiniodd cyhuddiadau o fwlio a diwylliant o ofn honedig at ddiswyddo'r cyn-Brif Weithredwr, Sian Doyle.

Image
Sian Doyle
Cyn Brif Weithredwr S4C, Sian Doyle

Mae Ms Doyle wedi gwadu unrhyw gamymddwyn yn y gorffennol, ac mae hi hefyd wedi dechrau achos ar wahân yn erbyn S4C a Rhodri Williams yn yr Uchel Lys.

Yn ei amddiffyniad, gwadu rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau mae Rhodri Williams. Mae dogfennau llys ar ei ran e yn amlinellu i dri unigolyn sydd yn gweithio o fewn i'r diwydiant darlledu Cymreig gysylltu â fe yn amlinellu pryderon am ymddygiad Ms Griffin-Williams yn Nantes.

Dywed y ddogfennaeth i Mr Williams dderbyn cyngor cyfreithiol y gallai ddiswyddo'r cyn Brif Swyddog Cynnwys. 

Diswyddo

Mae dogfennau ar ran S4C yn nodi i aelodau eraill Bwrdd S4C gymeradwyo penderfyniad Mr Williams i'w diswyddo hi yn ddiweddarach.

Dywed dogfennau'r llys i Mr Williams dderbyn cyngor cyfreithiol oedd yn ei ganiatáu i ddiswyddo y cyn Brif Swyddog Cynnwys am gamymddwyn difrifol. 

Mae'n dweud iddo "geisio cyfathrebu hynny...heb oedi, mewn amgylchedd lle gallai'r pennaeth adnoddau dynol...ei chefnogi." 

Mae dogfennau amddiffyniad S4C hefyd yn nodi bod "angen i ddelio â'r sefyllfa yn gyflym."

Noda'r dogfennau i aelodau eraill bwrdd S4C gefnogi penderfyniad Rhodri Williams i ddiswyddo Ms Griffin-Williams yn ddiweddarach.

Mewn datganiad newydd i Newyddion S4C brynhawn Iau, dywedodd Llinos Griffin-Williams: "Am ddwy flynedd, rwy'i wedi brwydro i gael llais, hyd yn oed drwy faterion iechyd difrifol. Does dim dewis gen i ond cymryd camau cyfreithiol i ddwyn y partïon sydd yn rhan o'r achos hwn i gyfrif.

"Mae'n fy nhristáu yn fawr fy mod yn herio darlledwr rwy'i wedi ei gefnogi drwy gydol fy ngyrfa, ond rwy'n credu bod amlygu'r drwgweithredu yn fy achos i sicrhau newid sefydliadol yn hanfodol - fel nad yw menywod yn cael eu tawelu, fel bod atebolrwydd yn cael ei orfodi, a llywodraethiant yn cael ei gynnal."

Dywedodd S4C nad oedd hi'n briodol iddyn nhw wneud sylw ar achos cyfreithiol cyfredol. 

Doedd Rhodri Williams ddim am wneud unrhyw sylw pellach chwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.