Dyn 36 oed wedi marw ar ôl 'disgyn i gysgu y tu mewn i fin ailgylchu'
Mae cwest wedi clywed fod dyn 36 oed wedi marw ar ôl disgyn i gysgu y tu mewn i fin ailgylchu, cyn iddo gael ei wagio gan lori.
Fe wnaeth Vitalij Maceljuch, 36 oed, a anwyd yn Wcráin ond oedd yn ddinesydd o'r Weriniaeth Tsiec, ddringo i mewn i'r bin ger siop Wren ar Ffordd Sealand, Caer, yn ystod oriau mân bore 10 Mai.
Yn nes ymlaen y bore hwnnw, daeth lori gasglu gwastraff Biffa i wagio’r bin. Er i’r gyrwyr wirio’i gynnwys drwy ysgwyd y bin ar ffyrc y cerbyd, cafodd Mr Maceljuch ei wagio i’r bin a’i wasgu i farwolaeth.
Yna, cafodd yr heddlu eu galw i leoliad rheoli gwastraff Thorncliffe yn Alltami yn Sir y Fflint, ar ôl i’w gorff gael ei ganfod ymysg y sbwriel. Roedd wedi dioddef anafiadau cywasgu difrifol i’w ben a’i wddf.
Mewn cwest yn Llys y Crwner yn Rhuthun, dywedodd David Lewis, yr is grwner ar gyfer rhanbarth gogledd ddwyrain Cymru, nad oedd gan Mr Maceljuch gartref sefydlog.
Roedd ganddo hanes o gymryd cyffuriau yng ngogledd Cymru a Sir Gaer, ac roedd yna olion canabis ac amffetamin yn ei gorff.
Dywedodd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Jonathan Medcalf: “Mae’n bosibl ei fod yn profi rhai o effeithiau’r sylweddau ar adeg ei farwolaeth.”
Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod arwydd rhybuddio “perygl marwolaeth” ar y bin.
Roedd delweddau teledu cylch cyfyng wedi dangos Mr Maceljuch yn dringo i mewn i’r bin am 04.00 yn y bore.
Roedd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn fodlon nad oedd y gyrrwr na’r ddau gwmni gwastraff ar fai.
Dywedodd y crwner bod Vitalij Maceljuch wedi marw drwy anffawd (misadventure) ar safle’r sgip yn Alltami ar 10 Mai'r llynedd.
“Ymddengys ei fod yn achos o weithred anffawd gan fod Mr Maceljuch wedi marw o ganlyniad i weithredoedd a oedd â chanlyniadau anfwriadol,” ychwanegodd Mr Lewis.
Llun: Google Maps