Teyrnged i 'fam a nain gariadus' a fu farw wedi gwrthdrawiad
Mae teulu dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Eirlys Elizabeth Williams, 89 oed, mewn gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr A5026 ym mhentref Gorsedd ar 18 Awst.
Fe gafodd ei chludo i'r ysbyty, ond bu farw ar 5 Medi.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Roedd Eirlys yn fam gariadus i Rae ac Antony (Tony) ac yn nain oedd wedi ei thrysori i chwech o wyrion.
"Roedd Eirlys yn mwynhau darllen, cymdeithasu gyda ffrindiau, a chefnogi'r gymuned.
"Mae'n gadael gwaddol o atgofion hwyliog a di-ddiwedd, a gwên i bawb oedd yn ei hadnabod."
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r gwrthrawiad, ac yn parhau i apelio am wybodaeth.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Katie Davies, o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau Mrs Williams yn ystod yr amser anodd hwn.
"Hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad dau gar yma, a oedd yn cynnwys Nissan Micra coch a BMW X3 llwyd."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000684372.