Newyddion S4C

Clwb Pêl-droed Caer yn gohirio gêm yn dilyn ffrae am reolau Covid-19

11/01/2022
Caer

Mae clwb pêl-droed sydd yn ffinio gyda Chymru wedi gohirio ei gêm gartref nesaf ar ôl iddo gael ei gyhuddo o dorri rheolau Covid-19 Cymreig.

Roedd Clwb Pêl-droed Caer i fod i herio Brackley Town ddydd Sadwrn yn Stadiwm Deva.

Dywedodd y clwb nad yw'n teimlo ei fod wedi cyrraedd "penderfyniad pendant" ar ôl dadl am reolau Covid-19 mewn cyswllt â lleoliad y clwb yn ddaearyddol.

Tra bod y fynedfa i’r prif eisteddle a’r swyddfa docynnau yn Lloegr, mae’r cae a mwyafrif o'r stadiwm yng Nghymru ac felly'n gorfod cydymffurfio gyda rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd does dim cyfyngiadau ar nifer y cefnogwyr sy’n mynychu digwyddiadau chwaraeon yn Lloegr, ond mae chwaraeon yng Nghymru wedi’u cyfyngu i 50 o wylwyr ers dydd Gŵyl San Steffan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.