Newyddion S4C

Cwmni o Gymru yn datblygu calon artiffisial newydd

12/01/2022
Pwmp artiffisial i'r galon

Mae cwmni o Gymru yn arwain consortiwm fyd eang i gynhyrchu calon artiffisial newydd allai arwain at osgoi'r angen am drawsblaniadau yn y dyfodol.

Mae Calon Cardio Technologies o Abertawe wedi ymuno gyda chwmni Leviticus o Israel i ddatblygu’r galon a wneir o titaniwm.

Mae’r galon artiffisial yn bwmp sy’n cael ei osod tu mewn i galon sy’n methu heb fod yn rhaid i’r claf aros am drawsblaniad. Bydd y galon artiffisial yn gallu delio gyda llif gwaed o chwe litr y funud.

Mae’r cwmni wedi gwario ychydig dros £20 miliwn dros y blynyddoedd diwethaf yn datblygu’r dechnoleg gan gynnwys £3 miliwn o arian cyhoeddus gan gynllun 'Innovate UK' Llywodraeth y DU.

Yn ôl Sefydliad y Galon mae tua 340,000 o bobl yn byw gydag afiechyd y galon yng Nghymru yn unig. Yn ôl ystadegau, afiechyd y galon sy'n gyfrifol am un ymhob pedair marwolaeth yng Nghymru, sy’n cyfateb i 26 o farwolaethau pob dydd.

Image
Mae'r galon artiffisial yn cael ei datblygu gan gwmni o Gymru

 

Sefydlwyd Calon Cardio Technologies gan yr Athro Marc Clement o Lanelli ynghyd â’r llawfeddyg yr Athro Stephen Westerby o Goleg Rhydychen a weithiodd gyda Dr Christian Barnard a berfformiodd y trawsblaniad calon gyntaf.

Dywedodd yr Athro Clement wrth Newyddion s4c: “Mae yna galonnau artiffisial yn bodoli eisoes ond mae’n rhaid iddyn nhw gael cyflenwad trydan i’w pweru gan ddefnyddio gwifren.

“Yr hyn sy’n wahanol gyda’n fersiwn ni yw bod y pŵer i’r pwmp yn cael ei ddarparu heb wifren o gwbl fydd yn osgoi y risg o heintiau yn datblygu o amgylch y clwyf ac yn rhoi mwy o ryddid i’r claf.

“Mae’n ddiddorol iawn i finnau fel Cymro Cymraeg fod y bobol yma ledled byd yn Chicago, Efrog Newydd, Singapore, Saigon, Shanghai yn defnyddio’r gair Calon.

“Bydd y pŵer yn dod o fatri, tua maint ffôn bach, fydd yn cael ei osod o dan groen y claf o dan y gesail. Bydd y claf wedyn yn gallu chargo hwn yn ddi-wifr yn ystod y nos ac yn rhoi 12 awr iddyn nhw yn ystod y dydd i fynd o gwmpas ei bywydau heb orfod bod yn sownd i rhwbeth trwy’r amser.”

Bydd y rhannau titaniwm yn cael eu cynhyrchu yng Nghaliffornia yn yr Unol Daleithiau a’r dechnoleg ddiwifr yn Israel unwaith y bydd wedi cwblhau'r camau arbrofol angenrheidiol.

Yna bydd y galon yn cael ei rhoi at ei gilydd mewn ffatri sy’n cael ei chwblhau yn Llansamlet, Abertawe.

Ychwanegodd yr Athro Clement: “Ar hyn o bryd mae tua 660,000 o bobl yn dioddef o glefyd y galon a dim ond 120 o drawsblaniadau sy’n cymryd lle bob blwyddyn.

“Mae’r sector yma wedi ei rheoleiddio yn gaeth iawn ac ry ni wedi treialu i fodloni safonau iechyd rhyngwladol. 

“Y gobaith yw y bydd y galon yn barod ar gyfer cleifion erbyn diwedd y flwyddyn gan greu dros 100 o swyddi newydd yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd gyntaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.