Huntingdon a Llundain: Dyn wedi ei gadw yn y ddalfa ar 11 cyhuddiad o geisio llofruddio

ymosodiad tren huntingdon

Mae dyn 32 oed  wedi ymddangos yn Llys Ynadon Peterborough i wynebu 10 cyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl i nifer o bobl gael eu trywanu ar drên a oedd yn teithio rhwng Doncaster a Llundain nos Sadwrn. 

Mewn achos ar wahân, mae Anthony Williams hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio a bod ag arf miniog yn ei feddiant wedi digwyddiad yng ngorsaf drenau Pontoon Dock DLR yn Llundain, yn gynharach ddydd Sadwrn. 

Cafodd person anafiadau i'w wyneb ar ôl ymsodiad â chyllell yn y digwyddiad hwnnw. 

Roedd Anthony Williams yn gwisgo tracwisg lwyd gyda'i ddwylo mewn gefynnau pan ymddangosodd yn y gwrandawiad ddydd Llun

Ni chafodd Anthony gais i gyflwyno ple, a nododd nad oedd ganddo gyfeiriad. 

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan 1 Rhagfyr, pan fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caergrawnt

Cafodd 11 o bobl eu trin yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn Huntingdon am 18.25 nos Sadwrn.

Mae gweithiwr trenau LNER mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad ar y trên oedd yn teithio o Doncaster i orsaf King's Cross yn Llundain. 

Mae pedwar arall hefyd yn cael triniaeth yn yr ysbyty. 

Datgelodd clwb pêl-droed Scunthorpe United brynhawn Llun mai  eu hamddiffynnwr Jonathan Gjoshe yw un o'r rhai sydd yn yr ysbyty.

Yn ôl y clwb, cafodd Mr Gjoshe anafiadau nad sy'n peryglu ei fywyd. 

" Yn sgil yr ymchwiliad sy'n cael ei gynnal, ni allwn ddarparu unrhyw ddiweddariad arall," meddai'r datganiad gan y clwb. 

Mae pump o bobl bellach wedi gadael yr ysbyty wedi'r digwyddiad nos Sadwrn.  

Dywedodd Tracy Easton, prif erlynydd ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Direct: “Fe wnaeth ein tîm weithio i sefydlu bod digon o dystiolaeth i ddod â’r achos i’r llys a’i bod er budd y cyhoedd i ddilyn achos troseddol.

“Fe wnaethom weithio'n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i adolygu nifer fawr o dystiolaeth gan gynnwys lluniau Cylch Cyfyng. 

“Rydym yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y mae’r digwyddiadau ar y trên dydd Sadwrn wedi’i chael a sut y gwnaeth syfrdanu'r wlad gyfan. 

"Mae ein meddyliau’n parhau gyda phawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw.”

Ymchwiliad pellach  

Brynhawn Llun, cyhoeddodd Heddlu Sir Gaergrawnt ragor o fanylion am ddigwyddiadau eraill allai fod yn gysylltiedig â'r hyn ddigwyddodd ddydd Sadwrn. 

Mae nhw yn adolygu tri digwyddiad ddydd Gwener 31 Hydref a bore Sadwrn 12 Tachwedd. 

Nos Wener, cafodd dyn ei weld gyda chyllell mewn siop barbwr yn Fletton, Peterborough tua 19:25. 

Cafodd yr heddlu wybod am hynny bron ddwy awr yn ddiweddarach, tua 21:10.

Ni chafodd swyddogion eu hanfon yno. Yn ôl yr heddlu, doedd y dyn ddim yno erbyn hynny, ond cafodd y mater ei gofnodi.  

Fore Sadwrn, cafodd yr heddlu wybod gan y barbwr am 09:25 fod y dyn yn dal ar y safle. Cyhaeddodd swyddogion o fewn 18 munud, ond ni chafwyd hyd i'r dyn.

Mae'r heddlu yn ceisio darganfod a oes cysylltiad hefyd ag  achos o drywanu bachgen 14 oed am 19:10 nos Wener. Cafodd y llanc ei gludo i ysbyty yn Peterborough gyda mân anafiadau.

Yn ôl yr heddlu, roedd y troseddwr wedi gadael y safle erbyn iddyn nhw gyrraedd. 

Mae Heddlu Sir Gaergrawnt wedi cyfeirio eu huanin at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.         

 

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.