Drakeford: ‘Ein drws ar agor’ i'r pleidiau eraill wrth gyhoeddi cyllideb ddrafft

Mark Drakeford

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi dweud bod ei “ddrws ar agor” i’r pleidiau eraill wrth iddo gyhoeddi ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27.

Yn sgil colli isetholiad Caerffili i Blaid Cymru bydd angen cefnogaeth o leiaf ddau aelod o Senedd Cymru ychwanegol ar y Blaid Lafur er mwyn gallu pasio'r gyllideb.

Cytunwyd ar gynlluniau gwariant y llynedd o drwch blewyn ar ôl i weinidogion daro cytundeb gyda Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae’r gyllideb ddrafft - gwerth £27 biliwn - yn nodi mwy na £800 miliwn o gyllid ychwanegol o'i gymharu â chyllideb y llynedd.

Byddai methu â phasio'r gyllideb erbyn mis Ebrill yn arwain at gwtogi'r cynlluniau gwariant yn awtomatig i 75% o rai'r llynedd.

Mae Mark Drakeford wedi rhybuddio y gallai hynny gostio hyd at £7bn i Gymru, gan arwain at golli miloedd o swyddi.

“Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais pan gyhoeddwyd cam cyntaf y Gyllideb Ddrafft: mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd, fel Senedd, dros basio Cyllideb i Gymru,” meddai Mark Drakeford.

“Rwyf yn hollol agored i weithio gyda'r rhai sy'n credu y gellir cytuno ar gyllideb fwy uchelgeisiol.”

Setliad

Caiff y Gyllideb Derfynol ei chyhoeddi ar 20 Ionawr 2026, gyda phleidlais yn y Senedd wedi'i threfnu ar gyfer 27 Ionawr.

O dan y cynlluniau, byddai iechyd a gofal cymdeithasol yn derbyn £259m ychwanegol, gan ddod â'r cyfanswm i £12.4bn - mwy na 55% o gyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru.

Byddai'r setliad i gynghorau sir hefyd yn codi 2.5% ar gyfartaledd, gyda chymal i sicrhau nad oes unrhyw awdurdod lleol yn derbyn cynnydd o lai na 2.3%. 

Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys £1.5m i ymestyn y cynllun peilot tocynnau bws £1 gan olygu y bydd bellach yn cynnwys plant pump i 15 oed.

Bydd cynnydd mewn cyfalaf hefyd i Amgueddfa Cymru o £500,000, Cyngor Celfyddydau Cymru o £500,000 a Llyfrgell Genedlaethol Cymru o £300,000.

Ymateb

Wrth ymateb, dywedodd plaid Refom UK: “Mae bellach yn edrych yn fwyfwy tebygol mai dyma fydd cyllideb olaf Llywodraeth Lafur Cymru. 

“Y flwyddyn nesaf, bydd gan Gymru'r cyfle i ddewis beth sy'n dod nesaf, ac ni allai'r dewis fod yn fwy amlwg.

“Ar y naill law bydd Plaid Cymru, sydd wedi cynnal Llafur a'u hannog i wario symiau enfawr o arian yn gweithredu polisïau ‘woke’, gwallgof ac eithafol yng Nghymru. 

“Ar y llaw arall bydd Reform, sy’n cynnig gobaith newydd i Gymru, a dychwelyd at wleidyddiaeth synnwyr cyffredin.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.