System gofal dementia sy’n ‘methu pobl iau’ yn gadael teulu gyda biliau gofal o £200,000

Y Byd ar Bedwar

System gofal dementia sy’n ‘methu pobl iau’ yn gadael teulu gyda biliau gofal o £200,000

Mae menyw o Ynys Môn yn dweud bod diffygion yn y system ofal ar gyfer pobl iau sydd â dementia wedi gadael ei thad gyda dyledion o £200,000, gan roi straen aruthrol arni. 

Mae Erin Thomas, 27, yn dweud ei bod wedi ymddiried mewn gweithwyr proffesiynol i helpu ei thad, Tony, ar ôl iddo gael diagnosis o frontotemporal dementia yn 52 oed, yr un afiechyd a laddodd ei fam a’i chwaer.

Ond yn ôl Erin, er iddi dderbyn sicrwydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai Tony’n debygol o dderbyn cymorth ariannol oherwydd cymhlethdod ei gyflwr, ni ddaeth unrhyw fath o help.

Image
Collodd Tony ei fysedd mewn damwain gyda chombein amaethyddol yn 2017, oedd yn un o’r arwyddion cyntaf i’w deulu bod rhywbeth o’i le. (Llun Cyfrannwr)
Collodd Tony ei fysedd mewn damwain gyda chombein amaethyddol yn 2017, oedd yn un o’r arwyddion cyntaf i’w deulu bod rhywbeth o’i le. (Llun Cyfrannwr) 

Ar ôl ei ddiagnosis yn 2021, roedd Tony angen gofal llawn amser. Yr unig opsiynau lleol iddo oedd mewn uned byw’n annibynnol ar Ynys Môn lle roedd y gofal yn £12,000 y mis am y flwyddyn gyntaf. Fe wnaeth y ffioedd gynyddu i £24,000 y mis yn yr ail flwyddyn wrth i’w gyflwr waethygu.

“Dwi’n meddwl yn gyfan n’ath o gostio dad £250,000,” meddai Erin wrth raglen Y Byd ar Bedwar. 

“Fe wnes i werthu ei dŷ i dalu am y costau, ond mewn dwy flynedd, n’ath y pres redeg allan.” 

Yn ôl Erin, fe wnaeth Tony barhau i dderbyn gofal er iddi rybuddio’r awdurdodau fod ei arian yn rhedeg allan. Mae hyn wedi arwain at gostau gofal o £200,000 sydd i’w talu o hyd.

“Mae’r effaith ariannol wedi bod yn anferth arna fi a dad,” esboniodd Erin. Mae hi'n cymryd meddyginiaeth gorbryder i ymdopi â’r straen ac yn dweud y byddai’r sefyllfa hon wedi gallu cael ei hosgoi yn gyfan gwbl. 

Llynedd, fe wnaeth Erin ddarganfod nad oedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwneud cais am gymorth ariannol o’r enw Gofal Iechyd Parhaus y GIG (NHS Continuing Healthcare Funding) i gefnogi Tony - ac nad oedd neb o Gyngor Ynys Môn wedi gwirio pa mor hir y gallai dalu am ei ofal. Mae Erin yn dadlau y byddai’r ddau gam yma wedi galluogi iddi osgoi bod yn yr helynt mae ynddo ar hyn o bryd.

“Oni yn dibynnu ar y pobol proffesiynol ma, oni’n ymddiried ynddyn nhw, ond yn y diwedd maen nhw ‘di gadael dad a fi lawr.” 

'Loteri côd post yn y gofal'

Mae Dr Catrin Hedd Jones yn arbenigwraig mewn gofal dementia sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ac yn dweud bod profiad Erin yn amlygu diffygion yn y system, sy’n barod yn ddryslyd i gleifion a’u teuluoedd.

“Fyddai’n clywed yn aml iawn am brofiadau ofnadwy - pobl sydd yn byw efo dementia ddim yn cael y gofal ac yn gorfod talu am ofal drud hefyd. 

“Ma rhei ardaloedd yn darparu gwasanaethau arloesol, ac mae lot fawr o bobl methu cael y ddarpariaeth yna oherwydd ble maen nhw’n byw. Felly be da ni’n cael ydy, be fyse rhywun yn galw’n postcode lottery. A mewn gwlad lle mae 3,500 a mwy o bobl efo dementia iau, dwi’n meddwl bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol i bawb.”

Image
Mae Dr Catrin Hedd Jones yn Uwch Ddarlithydd yn y Gymdeithas ar gyfer Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Worcester (Llun: Y Byd ar Bedwar)
 Yn ôl Dr Catrin Hedd Jones, mae diffyg darpariaeth gofal ar gyfer dementia mewn pobl iau yn dorcalonnus i gleifion a’u teuluoedd.(Llun: Y Byd ar Bedwar) 

Mae dementia mewn pobl iau yn cael ei ddiffinio fel pan mae symptomau yn dechrau cyn 65 oed. Y gred yw fod 3,700 o bobl yng Nghymru yn byw a’r cyflwr.

Tra bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn rhedeg uned arbenigol “Cariad” ar gyfer dementia mewn pobl iau, nid oes darpariaeth debyg ar gael yng ngogledd Cymru.

“Mae pobl sydd â dementia iau angen gofal lleol, priodol i’w hoedran ac yn berthnasol i’w hanghenion,” meddai Dr Hedd Jones.

“Mae’r polisïau’n bodoli, ond dyw nhw ddim yn cael eu gweithredu’n gyson ledled Cymru.”

Ar ôl cwyn swyddogol gan Erin, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfaddef ac ymddiheuro am beidio â dilyn y prosesau iawn ynglŷn â chymorth ariannol yn achos Tony. 

Mewn datganiad i Y Byd ar Bedwar, dywedodd Cyfarwyddwr Gweithwyr Iechyd Cysylltiedig a Gwyddoniaeth Iechyd y bwrdd, Teresa Owen:  “Rydym yn deall ac yn cydymdeimlo â’r aelodau teulu sy’n ceisio llywio asesiadau Gofal Iechyd Parhaus (CHC) ar gyfer eu hanwyliaid. Yn yr achos hwn, hoffem ymddiheuro eto am y diffygion a ganfuwyd yn yr adroddiad cyfrinachol. Er fy mod yn falch bod yr adroddiad wedi amlygu’r gofal priodol a gafodd Mr Thomas, ni roesom i Miss Thomas y wybodaeth a’r cyngor y mae ganddi hawl iddynt o ran CHC.

“Gallaf gadarnhau bod pob gweithred a nodwyd yn yr adroddiad wedi cael ei gwblhau. Mae cydweithwyr aml-ddisgyblaethol bellach yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad wythnosol o ran CHC, gan gynnwys hyfforddiant 1:1 ar faterion CHC a darpariaeth s.117. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i lleddfu pryderon Miss Thomas.”

Image
Mae Erin yn y broses o weld os allith hi sicrhau cefnogaeth ariannol wedi ei ad-dalu i helpu â dyledion gofal ei thad. (Llun: Y Byd ar Bedwar)
Mae Erin yn y broses o weld os allith hi sicrhau cefnogaeth ariannol wedi ei ad-dalu i helpu â dyledion gofal ei thad. (Llun: Y Byd ar Bedwar) 

Mae Erin hefyd wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r awdurdod lleol, Cyngor Ynys Môn, am fethu â chynnal asesiad ariannol o’i thad a fyddai wedi gwirio a allai fforddio ei ofal.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor fod y sefyllfa yn “gymhleth,” ac y bydd yn parhau i gydweithio gyda’r teulu, ond na fyddai’n briodol rhoi sylwadau pellach tra bod prosesau cyfreithiol yn mynd ymlaen.

Mae Tony bellach yn byw mewn cartref gofal ger Caernarfon, y tro hwn wedi’i ariannu gan y bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol. Mae Erin yn gweithio gyda chyfreithiwr i weld a all y bwrdd iechyd a’r cyngor lleol dalu’n ôl rhai o gostau gofal ei thad i helpu i ad-dalu’r ddyled. 

“Ma dad yn dibynnu arna fi, a man bwysig bo fi’n cael cyfiawnder,” meddai.  

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, ‘Yn Fyw yn y Cof’ nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.