Anafiadau wrth i dŵr ddymchwel yng nghanol Rhufain

 Torre dei Conti

Mae gweithwyr wedi eu hanafu wrth i ran o dŵr canoloesol ddymchwel ger y Colosseum yn Rhufain, yr Eidal.

Dyw'r adeilad ddim wedi bod ar agor i'r cyhoedd ers 2006, ac roedd gwaith yn cael ei gynnal yno i'w adfer. 

Wedi i ran o'r tŵr ddymchwel fore Llun, cafodd gweithiwr ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol. 

Cafodd dau weithiwr arall fân anafiadau. 

A dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth tân yr Eidal fod y gwasanaethau brys wedi bod yn ceisio tynnu bobl o’r rwbel.

Yn ôl adroddiadau yn lleol, mae rhannau o'r tŵr wedi dymchwel o leiaf ddwywaith, ac roedd criwiau tân ar y safle ar un adeg.   

Mae’r Torre der Conti rhwng lleoliadau enwog y Piazza Venezia a’r Colosseum.

Cafodd y tŵr ei adeiladu yn y 13eg ganrif ar gyfer y Pab ar y pryd, a'i deulu.

Roedd y gwaith o adfer yr adeilad i fod i'w gwblhau erbyn diwedd 2026 ar ôl pedair blynedd o waith atgyweirio.

Yn ôl adroddiadau lleol, clywodd llygad-dystion “sŵn fel twrw” wrth i’r tŵr ddymchwel. 

Mae’r ardal o gwmpas yr adeilad ar gau i gerddwyr.

Llun: Reuters  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.