Codi miloedd mewn ychydig oriau i gefnogi teulu bachgen fu farw yn Sir Gâr
Mae tudalen Just Giving wedi ei sefydlu gan gymuned leol yn Sir Gâr i gefnogi teulu bachgen ifanc a fuodd farw wythnos diwethaf.
Fe gafodd Leon Arundel oedd yn 14 oed anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ger eiddo yn ardal Llangynog ddydd Mercher.
Hyd yma mae dros £5,000 wedi cael ei godi ar y dudalen a hynny o fewn 12 awr.
Fe fuodd farw yn yr ysbyty'r diwrnod wedyn.
Roedd Leon yn chwarae i dîm pêl droed St Clears AFC, yn chwarae rygbi gyda Cwins Caerfyrddin ac yn aelod o glwb ffermwyr ifanc Sanclêr.
Mae'r dudalen Just Giving yn nodi mai'r bwriad yw cyfrannu at gostau angladd Leon a helpu i'w anrhydeddu "yn y ffordd yr oedd yn haeddu". Mae'r neges yn dweud bod y dudalen wedi ei sefydlu ar ôl negeseuon gan bobl yn gofyn sut allen nhw helpu.
Roedd Leon, meddai'r neges yn "enghraifft berffaith o berson chwaraeon- yn angerddol, wedi ymrwymo ac yn llawn egni ar gyfer pêl droed a rygbi. Nid yn unig roedd yn dod a thalent a phenderfyniad i bob un gêm ond hefyd ei wên gynnes, heintus a'i bersonoliaeth gyfeillgar oedd yn codi hwyliau pawb o'i gwmpas."
Maent yn dweud y bydd yn cael ei "golli yn fawr" ac na fydd "byth yn cael ei anghofio".
Yn ystod y penwythnos cafodd gemau gan St Clears AFC eu gohirio fel arwydd o barch.

