Sir Gâr: Cau ysgol gynradd ar ôl 'negeseuon bygythiol' ar-lein
Llun: Google
Bydd ysgol gynradd yn Sir Gâr ar gau ddydd Llun ar ôl i "negeseuon bygythiol" gael eu cyhoeddi ar-lein.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd Ysgol Dafen CP yn Llanelli ar gau ddydd Llun.
Mewn datganiad dywedodd y llu eu bod wedi "derbyn gwybodaeth am 02:30 fore Llun" oedd yn golygu bod angen cymryd "camau diogelwch."
Mae'r heddlu yn cydweithio gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin ac fe gafodd y penderfyniad ei wneud i gau'r ysgol.
Mae presenoldeb yr heddlu yn yr ysgol ac ardaloedd cyfagos ar hyn o bryd ac fe fydd swyddogion y llu yn aros yno wrth i ymholiadau barhau.
