Triniaeth masectomi arall i Amy Dowden

03/11/2025
Amy Dowden

Mae'r ddawnswraig o raglen Strictly Come Dancing Amy Dowden, wedi cyhoeddi y bydd yn cael triniaeth masectomi arall yr wythnos hon. 

Mewn fideo ar Instagram, cyhoeddodd o'i chartref ei bod yn cael llawdriniaeth yn dilyn apwyntiad gyda'i thîm meddygol "anhygoel", ac "nid i drin diagnosis newydd o ganser." 

"Unwaith 'dw i wedi gwella, rwy'n edrych ymlaen i ail-ymuno â fy nheulu Strictly," meddai.

"Wrth gwrs byddai'n colli peidio â bod yno cymaint, ond byddai'n gwylio o adref ac yn edrych ymlaen at annog pawb ymlaen. Diolch am y gefnogaeth bob tro.

"Mae nhw (y tîm meddygol) yn hyderus y gallaf, os bydd popeth yn mynd yn dda, ddisgwyl gwellhâd buan." 

 Mae Amy Dowden yn wreiddiol o Gaerffili ac yn adnabyddus fel dawnswraig broffesiynol ar raglen Strictly Come Dancing ar BBC 1. 

Ar y gyfres eleni, roedd hi'n dawnsio gyda chyn-gystadleuydd 'The Apprentice' Thomas Skinner, sydd hefyd yn wyneb adnabyddus ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Daeth eu taith ar Strictly i ben yn gynnar ar ôl i'r ddau golli eu lle mewn pleidlais yn ystod yr ail wythnos. 

Nhw oedd y pâr cyntaf i adael.

Cafodd Amy Dowden ddiagnosis cam tri o ganser y fron ym mis Mai 2023, pan roedd hi yn 32 oed. 

Yn dilyn y diagnosis, cafodd driniaeth chemotherapi a masectomi. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.