Elfyn Evans yn arwain y ffordd yn Rali Japan

Elfyn Evans

Mae’r Cymro Elfyn Evans yn arwain y ffordd yn Rali Japan gydag un diwrnod yn weddill.

Mae’r gŵr o Ddinas Mawddwy, a'i gyd-yrrwr Scott Martin, yn arwain y rali gydag amser o ddwy awr, 35 munud a phum eiliad wedi 14 cymal.

Mae ganddo fwlch o 17.8 eiliad dros Sebastien Ogier, sydd yn yr ail safle, gyda chwe chymal yn weddill i’w rasio ddydd Sul.

Byddai buddugoliaeth i Evans yn ymestyn ei fantais ar frig Pencampwriaeth Rali’r Byd, a hynny hanner ffordd drwy’r tymor.

Bydd y rali yn ail ddechrau toc wedi hanner nos yn amser y DU, gan orffen tua 07.00 fore Sul.

Llun: Toyota Gazoo Racing

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.