'Lladd y dref': Siop Marks & Spencer yn Abertawe yn cau ar ôl bron i ganrif

ITV Cymru
M&S Abertawe

Bydd siop sydd wedi bod yn rhan gyfarwydd o stryd fawr Abertawe ers bron i 100 mlynedd yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn.

Bydd Marks & Spencer yn cau ddydd Sadwrn, gyda'r cwmni'n dweud eu bod yn "archwilio cyfleoedd ar gyfer presenoldeb M&S yn y ddinas yn y dyfodol."

Dywedodd un cwsmer wrth ITV News y byddai cau’r siop yn gadael canol y ddinas yn wag.

“Mae’n warthus. Does gennym ni ddim byd yn Abertawe nawr, fyddwn i ddim yn dod i dref bellach.”

Dywedodd cwsmer arall: “Mae’n ofnadwy. Nid oes lawer mwy o siopau yma, a dyma’r siop fawr ddiwethaf.

“Bydd yn lladd y dref yn gyfan gwbl.”

Daw penderfyniad y cwmni i gau’r siop yn Abertawe yn sgil strategaeth fuddsoddi newydd, medden nhw.

Mewn datganiad, dywedodd M&S: “Bydd ein siop M&S yng nghanol dinas Abertawe yn cau ddydd Sadwrn 30 Mai.

"Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae'r penderfyniad hwn yn rhan o'n cynlluniau i ail-lunio ein hystâd siopau fel y gallwn fuddsoddi mewn siopau sy'n ymateb i anghenion ein cwsmeriaid yn well.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wasanaethu cwsmeriaid yn Abertawe drwy ein siopau cyfagos ac ar-lein, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Abertawe a phartneriaid lleol eraill i archwilio cyfleoedd ar gyfer presenoldeb M&S yn y ddinas yn y dyfodol.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Rydym yn siomedig bod M&S wedi dewis cau'r siop bresennol cyn y gellid dod o hyd i leoliad arall.

“Byddai hyn wedi osgoi bwlch mewn masnach i gwsmeriaid a chyflogaeth i staff M&S. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gydag M&S i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer siop yn Abertawe".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.