Cymuned yn 'galaru' wedi marwolaeth babi ar ôl ymosodiad gan gi
Mae "cymuned yn galaru" medd cynghorydd ar ôl i fabi naw mis oed farw yn Sir Fynyw ar ôl ymosodiad gan gi.
Yn ôl Peter Strong, aelod o Gyngor Sir Fynwy mae yna "deimlad dwfn o sioc".
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi eu galw i gyfeiriad yn ardal stryd Crossway, Rogiet - cymuned y tu allan i Gil-y-coed - tua 18.00 ddydd Sul.
Bu farw babi naw mis oed yn y fan a'r lle.
Mae'r ci wedi'i feddiannu a'i symud o'r eiddo.
Mae Peter Strong wedi dweud bod meddyliau pawb gyda'r teulu.
"I golli baban yn yr amgylchiadau hyn, i golli rhywbeth sydd yn llawen a llawn cariad, i gael hynny wedi’i gymryd oddi wrthych… mae’n hollol ofnadwy."
'Sioc'
Ychwanegodd Katherine Close, ymddiriedolwr caffi Rogiet Community Junction y bydd pobl yn gefn i'r teulu nawr.
“Mae’r gymuned mewn sioc, dydych chi byth yn disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd," meddai.
“Nid yn aml iawn yr ydym ni'n gweld llawer o gerbydau'r gwasanaethau brys o gwmpas, felly pan mae'n digwydd rydych chi’n gwybod bod rhywbeth difrifol wedi digwydd.
“Rydyn ni’n aros i glywed… ac yna mae’n fater o gefnogi'r teulu, cefnogi cymdogion, cefnogi ein cymuned.
“Rydyn ni wedi cael llawer o famau a babanod yn defnyddio'r caffi dros y blynyddoedd… Mae’n dorcalonnus.”
'Pryderon'
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn "deall y bydd yna bryderon am y digwyddiad hwn" ond y bydd swyddogion ar y safle. Yn ôl y Prif Uwch-arolygydd John Davies bydd ymholiadau pellach yn digwydd wrth i'r ymchwiliad barhau.
“Os oes gennych bryderon neu wybodaeth yna stopiwch a siaradwch â ni,” meddai.
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Ddydd Sul 2 Tachwedd fe gawsom ein galw i adroddiadau o argyfwng meddygol yn Rogiet, Cil-y-coed am 18.02.
"Cafodd un uned ymateb uchel, uwch barafeddyg, rheolwr dyletswydd ac un ambiwlans brys eu danfon i'r lleoliad.
"Roedd y criwiau yn cael eu cefnogi gan ein Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus."
